Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

Yr oedd Mr. Thomas Edward Ellis, yn ddiameu, yn un o'r dynion hoffus a da hynny y dylai'r wlad a'u mago fod yn gynefin â holl fanylion eu hanes. Gresyn na bae gennym eisoes gofiant llawn iddo, ond y mae ein bod hebddo yn gytûn ddigon â'i wyleidddra ef ei hun. Fel y dengys Mr. Owain mor hyawdl yn y llyfr hwn, ganed ef yn un o siroedd mwyaf Cymreig Cymru, yn fab i amaethwr, un o'r dosbarth a gadwodd ddiwylliant ac arferion bonheddig hen uchelwyr Cymru gynt. Yr oedd yn un o'r to cyntaf o Gymry ieuainc a addysgwyd yng Ngholeg cyntaf Cymru, yn Aberystwyth, a gwnaeth enw iddo ei hun wedi hynny yn un o'r Prifysgolion Seisnig. Daeth i gysylltiad â'r wasg, a bu'n athro. Gwelodd