Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

well llenor drwy ei ysgolheigdod; yr oedd y dueddfryd ynddo cyn myned i'r Coleg, ond yn y Coleg yr ymddatblygodd. Trodd ei anfanteision ei hun yn fanteision i eraill yn y cyfeiriad yma; bu'n gofidio ei hun na fuasai clasuron yr iaith yn nes i ddwylo gwerin ei wlad, a gwnaeth ei oreu i geisio llenwi'r gagendor. Tra yn mwynhau Elis Wyn, Theophilus Evans, Morgan Llwyd, &c., nid anghofiodd fod gan Gymru hefyd ei Phant y Celyn ac Ann Griffiths, ac ni anghofiodd ychwaith fod Beibl yn ei iaith ac ar ei aelwyd. Sugnodd nerth i'w enaid o'r uchod, a buont yn gyfryngau i lefeinio ei ysbryd drwyddo, ac i roddi lliw a ffurf ar ei fywyd.

Nid oes eisiau tystiolaeth gryfach am dano fel ffrynd Addysg na'r un a ganlyn o eiddo Arglwydd Eenyon, yng nghyfarfod hanner blynyddol Llys Llywiawdwyr Coleg Prif Ysgol Gogledd Cymru, a gynhaliwyd yn Rhyl, Ebrill, 1899. Llefarodd Arglwydd Eenyon y geiriau a ganlyn mewn dwyster:—