y symudiad addysgol yng Nghymru. Bydd ei esiampl ef yn symbyliad i Gymry ieuainc y dyfodol am genedlaethau lawer."
Wele eto deyrnged Mr. Hudson, Brighton, ysgrifennydd y Cyngrair Rhyddfrydol, iddo:—
"Yr wyf wedi fy nharo gan y newydd dychrynllyd. Yr ydych wedi colli mab rhagorol, a Mrs. Ellis y gŵr cywiraf, a minnau fy nghyfaill mwyaf anwyl."
Yr oedd sylwadau tyner cyffelyb i'r uchod yn llifo o bob cyfeiriad ar ol ei farw.
"Bydd ewyllys y rhai pur yn rhedeg i lawr ohonynt i natur rhai ereill, yn union fel y rhed dwfr o lestr uwch i lestr is," meddai Emerson. Dylanwad bywyd! Beth sydd brydferthach na bywyd pur—bywyd fydd yn perarogli yn y cylch y bydd yn tyfu, ac yn gadael ei ddylanwad ar ei ôl? Beth yw addysg, cyfoeth, sefyllfa gymdeithasol, a gwarogaeth gwlad