Prawfddarllenwyd y dudalen hon
eu hadeiladu yn y dyfodol. Nid gwaith yn darfod wrth ei ddechreu oedd ei waith ef.
Carodd Cymru ef yn fawr, ac y mae ei pharch iddo heddyw yn ddi-fesur. Saif ei gofgolofn i roddi ysbrydiaeth yng Nghymry ieuainc y dyfodol, i'w gwneud yn wladgarwyr gwirioneddol. Os am fod yn gymwynaswyr gwirioneddol rhaid iddynt yfed o ysbryd, mabwysiadu nodweddion, a chael purdeb a lledneisrwydd cymeriad y diweddar a'r anwyl.
"ARWR O GYNLAS"