Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bach Jones," &c. Yr oedd bonedd Dafydd Fychan, o Gaio, fel y canlyn, yr hwn sydd yn meddiant Miss Lloyd, o Laques, Llanystyffan. (Gwel Glyn Cothi, page 205, Rhan I. dosparth iii.)

Philip Trahaearn , o Ryd Odyn.

Llywelyn | Philip
Dafydd | Llywelyn
Morgan | Dafydd
Dafydd | Morgan
Dafydd | Morgan Fychan.

Llyma y "CYWYDD."

"Mae ffynon gwlad paradwys,
A berw o'i phen heb or phwys;
Duw a yrodd i diriaw,
O hon bedair afon draw;
Afon dda ddigon i ddyn,
Erioed ydoedd Rhyd Odyn. (1)
Pedeir-ran o Forgan fu,
Draw o hon wedi'r hanu;
Dafydd Fychan a'i rhanodd,
A phob un fu'n rhanu rhodd.
Mae in' egin, myn Egwad, (2)
O Rys Du, wyr o ystad.

Neshau draw o Lan Sawyl, (3)
A un at Rys hwnt i'r ŵyl;
Ysgwier yw dros Gaiaw,
Yno â'i wlad yn ei law.

Mi wn y ffordd, myn y ffydd!
O'i dai ef, lle mae Dafydd;
Dydd da i'r gwrda, bob gŵyl,
Draw ganwaith o dre' Gynwyl.

Ymalidia yr ha' er hyn,
Oleu i dai Lywelyn.
Henw y gŵr yw Hen Gyrys, (4)
Erioed o Lan Wrda Lys.

Minau o bydd grym ynof,
Mis i dai Tomas y dof,
Ei fedd, (5) ei ddillad am f'ais,
(Be cof) yn fab y cefais.