Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r hen fardd godidog ar hyn o bryd; gan hyderu y cawn hamdden i roddi tro am dano eto cyn bo hir.

"I PHILIP AP TOMAS FYCHAN, O'R ANNELL."

Yr anedd wrth yr Annell, (1)
Ni wn i ddyn anedd well;
Dafydd fu'n magu â medd,
Yr ynys yn yr anedd.
Yn ei ol ei nai eilwaith, (2)
A wnai â gwin yr un gwaith;
Ffurfodd yn rhodd o'r eiddaw,
Philip[1] corph Huail ap Caw. (3)
I Urien (teml Wynen lân!) (4)
Y saif âch Tomas Fychan.
Philip o ddeugyff haelion,
Yw'r ddar hir o'r ddaear hon!
Ei dad oedd frig i bob dyn,
O Rydderch, yntau'n wreiddyn;
Ei fam oedd flodau am fedd,
O Einion, yntau'n unwedd.
Y bêl, nai Esgob Eli, (5)
Ef à i'r al fry a hi,
Ef a dal cystal ag wyth,
Hyn a dalai'r hen dylwyth.
Ni wnai gwaeth, (6) yn un gŵr,
Yn y Deau, no deuwr;
Dwy wlad dano fo a fydd,
Dwy dref, a deudir ufydd;
Dau dda a lenwis dwy ddôl,
Da byw (7) wythwaith, da bathol. (8)
Mal mab i Ddyfnwal Moel Mud, (9)
Yw Philip praff ei olud;
E fesurai'n brif saeraidd,
Y grwn & hyd gronyn haidd; (10)
Un rhyw y gwna ŵyr Hywel,
Ar ei dir yr awr y dêl;
Mesur oll y maes a'r ŷd,
Ac ei erydr bob gwrhyd. (11)
Cwmwd hir tair milltir mawr, (12)
Canterw mân, cantre' maenawr.
Mae yn llaw hil Dyfnawal,
Yr erwi mawr a'r aur mâl;[2].

  1. Yr oedd y Philip hwn yn frawd i dad Harri ap Gwilym o Gwrt Meary, Liangathen.
  2. Milled Goid