Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu "dreth," ar yr ochr arall. Dywed Tacitus, yr hanesydd Rhufeinig clodfawr, yn hanes bywyd Agricola, tudal. 12, "Fert Britannia aurum et argentum et alia metalia, pretium victoria." Dyma dystiolaeth benderfynol ar y pwngc, er fod Caisar yn dyweyd mai arian, "prês," a "thyrch heiyrn," oedd gan y Cymry; ond y mae yn well genym ni gredu Tacitus yn hyn o bwnge na'r brenin!

Y mae Cynwyl Gaio, fel y crybwyllasom eisoes, yn cael ei henwogi gan yr Ogofau ysplenydd sydd yn ei hymyl, fel rhai oeddynt yn welyau i'r aur. Yma, mae yn debyg, yr oedd California Cymru, a dyma lle yr oedd ei chloddfeydd helaethaf a godidocaf.

Yn ystod arosiad y byddinoedd Rhufeinig yn Nghaio, y mae yn sicr weithian mai eu gwaith hwy yno ydoedd cloddio aur. Yn ei erthygl gampus ar "Gloddfeuydd aur cyntefig y Cymry," o waith y dysgedig Barch. Eliezer Williams, yr hon sydd yn argraffedig yn "Williams's English Works," a'r hon yn wreiddiol a ymddangosodd yn y "Cambrian Register,"[1] fe ddywed fod yr enw "Cynwyl" yn deilliaw o cyn, first, and gwyl gwylio, to watch or to be vigilant; dywed ei bod yn safle a feddianwyd gan advanced guards Caius; ac ebe fe, "It is probable that the advanced guard of the Britons was stationed at Cynwyl Elved (the advanced post of Elved,) a place situated a few miles to the south of Caio." Dywed fod y Gauliaid, yr Elfetiaid, a'r Britantiaid yn un bobl. Gellir casglu hefyd, oddiwrth gyfeiriad y bardd Llywarch Hen, fod Cynwyl ac Elfed yn orsafoedd o bwys; dywed "Cyfarwyddom ni cam Elfed." "Let us be guided onward to the plains of Elved." Mae y ffeithiau hyn yn profi yn ddiameuol mai yr hyn a gadwodd y Rhufeiniad cyhyd o amser yn Nghaio,

  1. "C. Register," vol. iii. p. 31. Published in 1818, and dedicated to the Rev. Thos. Beynon, Archdeacon of Cardiganshire.