Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

by that enterprising people, the Romans, throw into the shade the puny works of their followers, and prove that the art of extracting gold from quartz, even when invisible to the naked eye, was then understood."[1]

Y mae y dyfyniadau blaenorol yn ddysgrifiad cywir sefyllfa bresenol yr "Ogofau."

Mae y fynedfa i'r Ogofau mewn man pur ryfeddawl. Y mae pant mawr yno, a darnau o hen greigiau aruthrol yr olwg arnynt, yn ymddangos fel hen olion castell mawreddig, neu amddiffynfa gadarn a dyrchafedig. Mae yn eithaf amlwg fod y lle hwn wedi bod ryw amser yn cael ei ysgwyd gan ddaeargrynfâu arswydus.

Dywed Mr. Williams yn mhellach, "Fe ddywed Pliny yn ei Hanesiaeth Naturiol, ei fod yn arferiad cyffredin gan y milwyr Rhufeinig, pan yn sefydlog yn y taleithiau Yspaenig, i gloddio mynyddau cyfain pan y tybient eu bod yn cynwys y mwnau gwerthfawr. Eu bod yn arwain cŵrs afonydd, ac yn eu gosod i ddylifo i waered dros oredau anferth, nes y byddai holl nerth y peiriant naturiol ac anorchfygol hwn yn chwareu ar droed neu wadn y mynyddau a gloddient, nes eu llwyr ddadwreiddio!" Dyma bobl ryfedd, onide! Yr oedd ganddynt oredau a chynlluniau ereill, y rhai oeddynt yn atal y tywod a'r rwbal rhag myned i waered gyda'r llif, yr hwn a sifient drwy ograu, megys ag y maent yn y dull presenol yn y wlad hon, gan wasgaru yn rhwydd felly yr aur oddiwrth y defnyddiau diwerth eraill, sorod, &c. Y mae hanes cyffelyb am y Rhufeiniaid, pan yn gorsafu yn ymyl mynyddau a gynwysent aur, neu

  1. "The Geological Survey," ebe Mr. Smyth yn mhellach, "discovered, however, a specimen of free gold in the quartz of one of the lodes, and thus corroborated the evidence which tended to prove that the mines were worked for gold."