Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAIO A'I HYNAFIAETHAU, YR OGOFAU AC AFON COTHI, &c.

UN o hynodion penaf gwlad ein genedigaeth ydyw ei bod mor orlawn o olion hynafiaethol. Mae yn mhob cymydogaeth gymdeithasfäu (associations) ysplenydd o'r hyn sydd yn dlws ac yn arddunol—o'r hyn sydd yn hanesiol a marchwriaethol (chivalrous)—ar ael pob bryn, ac ar wyrdd-lawr pob dyffryn braidd, yn nghydag amrywiaeth annherfynol yn ei thirweddau (sceneries) byth-foddus. Cofiaethau am fuddugoliaethau gogoneddus, ac am drai a llanw mawredd a godidogrwydd cenedl: te, megys yn ysgrifenedig ar ei chreigiau "â phin o haiarn ac â phlwm," mae y dewrder gorchestol a'r mawredd milwrol a berthynai i'n hen dadau gynt, pan y safent dros iawnderau eu gwlad, yn erbyn rhuthriadau y Rhufeiniaid, y Daniaid, a'r Normaniaid, ac yn erbyn hen fradwriaethau y Pictiaid a'r Saeson! Mae prydferthwch yn coroni gruddiau ef hanffrwythlonder yn mhob man-llwydion greigiau a charneddau mawreddog, ogofau eang a chestyll cedyrn, aruthrol feini a chysegrawl gromlechau, wrth ba rai y bu ein cyndadau dewr a gwladgarol yn addoli gynt; ynghydag hynafol draddodiadau yn poblogi llawer o'i choedwigoedd mawrion, ac olion monumentau i'w harwyr braidd i'w canfod yn mhob man. Ac wrth weled y dibrisdod a deflir arnynt yn yr oes bresenol, y mae ein hawen yn ymdori allan yn ei galar, ie, wrth weled