Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teuluaidd Aberhirnant. Penodwyd ef yn Ustus Heddwch, yn Is-raglaw y sir, a llanwodd swydd o sirydd yn 1851. Yn 1830, efe a ddyfeisiodd Fywyd-fab Ceuol (Tabular Lifeboat), yr hwn a sefydlwyd yn Weymouth. Yn 1851, efe, mewn cysylltiad a'i fab, a fynodd wneyd y bywyd-fad Challenger; a mordeithiodd ynddo ar dywydd tymhestlog oddiamgylch y Land's End i Lundain. Y mae bywyd-fad ar yr un cynllnn â hwnw yn awr mewn arferiad yn Rhyl. Bu farw yn Rhiwwaedog, ger y Bala, yn Penllyn, yn 1861, yn 70 oed.—(The Cruise of the Challenger.)

TEGID FOEL, penaeth yn y bumed ganrif. Mab ydoedd i Gadell Deyinllwg, ac arglwydd Penllyn, yn Meirion. Ei briod ydoedd Ceridwen.

TEGWEDD, santes yn y bumed ganrif, ydoedd ferch i Degid Foel, o Benllyn. Hyhi a sefydlodd eglwys Llandegwedd, yn sir Fynwy, lle y lladdwyd hi gan y Saeson paganaidd, mewn man o'r enw Merthyr Tegwedd. Mab iddi ydoedd Teilo, esgob Llandaff.

THOMAS, DAVID, Meifod. Ganwyd ef yn Ty'nygwynt, ger y Bala, yn Mhenllyn, Rhagfyr 29, 1782. Ni chafodd David Thomas ond ychydig ysgol ddyddiol pan yn blentyn. Yn 1805 priododd Miss Mary Roberts, merch Robert Oliver, Ty coch. Yn 1809 derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn yr Hen Gapel, gan Dr. Lewis. Yn 1829 symudodd David Thomas a'i deulu o Lanuwchlyn i'r Main, Meifod, swydd Drefaldwyn; ac yn 1862 symudasant i Feifod, lle y bu farw, Ionawr 30, 1863. Yr oedd Mr, Thomas yn wr llafurus iawn gyda chrefydd, er nad oedd yn rhyw siaradwr mawr—llawer o waith ac ychydig o swn oedd ei arwyddair ef. Yr oedd David Thomas yn fardd pur wych, a gadawodd liaws o gyfansoddiadau barddonol mewn llawysgrifen i'w wyr David Thomas. Ymddangosodd amryw ddarnau o'i eiddo yn y Dysgedydd o dro i dro; galwai ei hun yn "Dewi ab Didymus Carndochan." Y mae un—ar—ddeg o ddarnau barddonol o'i eiddo yn niwedd ei Gofiant, gan y Parch. R. Thomas, Bangor. Argraffwyd yn Llanfyllin, 1863.

THOMAS, Parch. ROBERT, o'r Llidiardau, ger y Bala, yn Mhenllyn, oedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn Trawsafon, Bettws y coed, swydd Gaernarfon, Awst 28, 1796. Daeth at grefydd yn fore, ac yr oedd yn hoff iawn o ddarllen er yn blentyn; hefyd, yr oedd tuedd at farddoni ynddo