Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwylied wrth y ffwrnes nos a dydd heb roi hûn i'w amrantau, a'i gnawd yn toddi fel bloneg gan wres y tân, er mwyn pentyru arian nas gŵyr pwy a'u meddiana; yr hwsmon, y porthmon, y siopwr, a'r crefftwr sydd mewn cyngrair i geisio ysgubo aur yn nghyd, ac fel pe baent am y cyntaf i ymgyfoethogi. Un dyn yn ysbeilio ei gymydog, ac yntau yn ysbeilio arall; ac felly o'r pendefig i'r begar—pawb sydd yn treisio am gyfoeth. Y mab gweddw sydd yn hela am waddol yn fwy nag am y ferch ei hunan; y gwŷr priod sydd yn caru cyfoeth fel eu gwragedd; yr henaint ar lan y bedd, a'u penau yn fwy gwyn na'r eira, sydd yn brefu am olud i ereill, heb iawn adnabod pwy ydynt. O!'r fath dorfeydd dirif o ddynion sydd â chwant arnynt fod yn gyfoethocach nag y maent ! Och! DDUW, pa beth fydd diwedd hyn ? Ond mi ddymunwn arnoch, fy hen gyfaill Cantator, i wneud Marwnad i Avaritius—mi wn i chwi wneud y fath amryw weithiau i ddynion cyfiawn a da, ac mae eich gwaith wedi bod yn fuddiol iawn; ac fel mai da yw adrodd a chanu bywyd ffydd y duwiol, felly da hefyd yw adrodd a chanu drwg fywyd yr annuwiol, er rhybudd i'r sawl sydd eto yn ol i ddysgwyl a wel Duw fod yn dda ryw awr, trwy rybuddion o'r fath, i alw y cyfryw allan o gyfeiliorni eu ffyrdd. Anhawdd oedd cael un yn y dyddiau gynt ag oedd yn fwy awyddus na Zacheus; eto gras y nef a ymaflodd ynddo, ac a roddodd iddo galon newydd, yr hon oedd mor ewyllysgar i'w rhanu hwynt rhwng y tlodion ag oedd efe i'w casglu hwynt yn nghyd trwy drais. Rhowch, fy nghyfaill, ychydig eiriau ar gân am Avaritius, yn rhybudd i ereill rhag myned i'r ffordd enbyd hono.

CANT.—Mi gyflawnais eich dymuniad fel y medrais cyn i chwi ei osod ger fy mron.

PERCON.—O, gadewch im' ei chlywed!

MARWNAD AVARITIUS

B'LE heddyw mae 'th drysorau, ti druenusaf ddyn?
Pwy sydd yn cadw 'th godau a'th filiau wrth ei glin?
Pwy bia 'th feusydd meithion, a'th neuadd ddysglaer, lân?
A ge'st ti wybod hyny gan ryw un yn y tân?

Dy gyfoeth a'th adawodd; am d'enw nid oes son:
Mae ereill yn gwasgaru a gesglaist ti trwy boen.
Dy awydd a'th orthrymu, dy drais a'th dwyll yn nghyd,
A gofir, a ddanodir, ganlynir gan y byd.

Llosgfeydd o dân tragwyddol yw 'th wely heno a'th nyth,
Yn lle dy balas cadarn meddyliaist drigo fyth;
Ellyllon hyll uffernol sy'n gwawdio 'th boenau a'th loes,
Am gadw 'r tlawd heb wrthban i orwedd tano 'r nos.