Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PERCON.—Ond peth rhyfedd os nad oedd yn cael ei annghredu gan lawer gwrth—ddywedydd yn ei erbyn; ei erlid, ei wawdio, a'i ddibrisio; canys pwy bynag a fyddo yn byw yn dduwiol yn NGHRIST IESU a erlidir. Mae had y ddraig â gelyniaeth gwastadol yn erbyn Had y wraig; y ddau hyn a wrthwynebant eu gilydd hyd fyth. Peth rhyfedd os nad oedd llawer o wrthwynebiadau iddo, annghyfiawnderau, a gorthrymderau yn cael eu gosod arno am ei fod yn gwneud cyfiawnder dros enw y Duw byw. Nid ydych yn son din am ei groesau, ei gystuddiau, a'i brofedigaethau; pa fodd, atolwg, y cafodd y ffordd mor esmwyth a hyn i'r nef? Nid oes genych ond torfeydd o rinweddau allanol, tymherau hyfryd ag y gall llawer o honynt fod mewn natur na chenedlwyd erioed o Dduw. Dymunwyf gael clywed son am ei groes ef; canys y mae yn rhaid codi hono cyn y gellir cyflawn ddilyn yr ARGLWYDD: am hyny, os cafodd efe hwynt, pa fodd yr ymddygodd danynt? Ai maddeugar dan bob dirmyg, gwawd, ac erlid? Ai addfwyn dan bob croes, cystudd, a rhagluniaeth wrthwyneb, neu ynte fel arall?

CANT.—Nid oedd Fidelius yn rhoi achos i neb i'w wrthwynebu, nac ychwaith i roi drygair iddo; ond yr oedd ei haelioni, ei diriondeb, ei gymwynasgarwch, tebygid, yn abl gorchfygu pawb o'r byd; eto, rhwng y genfigen hon sydd yn blino am, ac yn llidio wrth y sawl a lwyddo yn y byd, ac a gynyddo mewn parch, golud, neu enw; yr elyniaeth hono sydd yn erbyn gwir ras yn mhob dyn wrth natur, yn nghyda'r llid hefyd sydd gan ddiafol at ddelw Duw yn. mhawb, a berodd enynu mewn llawer o bobl wrthwynebrwydd i Fidelius. Ond, fel Moses gwas yr ARGLWYDD, ei DDUW a'i hamddiffynodd ef; a'r golofn dân a safodd goruwch ei babell yn mhob cyfyngder a chaledi. Rhai a geisiasant dduo ei enw, ond trodd hyny allan er parch iddo; rhai a'i dirmygasant ef i'r radd uchaf, ond ni thynwyd cufydd oddiwrth ei faintioli trwy hyny. Pwy all gyfrif pa mor fynych y bu efe yn nod i saethau rhai anwir? Ni allaf lai na meddwl am Joseph wrth gofio am dano; gŵr oedd wirion, diwair, a ffyddlon, yn cael cam-achwyn arno fel pe buasai euog o'r camweddau duaf; ei enaid a roddwyd mewn heiyrn, a'i draed mewn cyffion, er na chafwyd twyll yn ei enau, nac annghyfiawnder yn ei fywyd. Felly Fidelius; drwg-ewyllys a malais oedd yn ei amgylchu fel goleu y dydd; ond nis beiddient wneud niwed iddo, nac yn fynych ddadguddio y drwg-ewyllys oedd yn eu calonau ato; canys Duw a osododd ei ben, ef uwchlaw ei elynion, a'i ofn ef oedd arnynt. Yn y tywyllwch yr oedd eu nerth, a thu cefn iddo yr haerent yr anwiredd. Yno y condemniwyd ef amryw weithiau am bethau.