Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aipht. Byth nid oedd mor ddibris ac mor iach am achosion ereill ag am ei achosion ei hun, canys yna fe geryddai yn llym y rhai oedd yn duo eu henwau, ac a gosbodd amryw ag oedd yn treisio teulu y ffydd, ac a fynodd amserau mwy heddychlon, trwy gosbi drwg weithredwyr, a dial ar elynion yr ARGLWYDD, fel Dafydd, y gŵr oedd wrth fodd calon Duw. Ac i'r dyben hyn fe bwrcasodd iddo ei hun swydd oruchel ac arbenig yn y wladwriaeth, fel y gallai gael gwell llonydd i'r gwirionedd fyw, a gwell rhydd-did i bregethu Gair y deyrnas. Yn fyr, yr un peth oedd gwneud niwed i gredadyn ag i ganwyll ei lygad ef, mor gu oedd ganddo y saint o bob enw; ond fe adawai i amryw i'w felldithio ef ei hun, ac a ddywedai, "Gad iddo; yr ARGLWYDD a archodd iddo." Un digyffelyb ydoedd yn ei holl ymarweddiad—manwl, gwresog, a gwyliadwrus yn ei ddyledswyddau at DDUW; cywir, gonest, a didderbyn wyneb at ddyn; sobr, cymedrol, a hunanymwadol ato ei hun.

PERCON.—Rhinweddol a hyfryd oedd ei ymarweddiad a'i fywyd cymwynasgar a hawdd ei drin; caredig i'w gyfeillion, a maddeugar i'w elynion; a chredu yr wyf mai gŵr da a duwiol oedd Fidelius. Ond mae moesoldeb yn myned yn mhell, a hunan—gyfiawnder sydd yn myned yn mhellach; ac edrychwch ond ar Eglwys Rhufain—pa drysorau anfeidrol roddodd miloedd o'r rhai hyn at achosion eglwysig, i borthi tlodion, gweddwon, ac amddifaid, y rhai oeddent hwy yn dybied fod felly o leiaf? pa sel sydd ganddynt at eu heglwys eu hun? Pa gyflawnder a roisant at weddw—dai, mynachlogydd, a chapeli? Pa luaws o offeiriaid, monachod, a monachesau sydd heddyw yn bwyta bara o'u hydlanau hwy? Ond nid oes nemawr o'r rhai hyn yn adnabod gwaith gras ar eu calonau, nac yn adnabod yn deimladwy awelon Ysbryd Duw. Eu holl ddiwydrwydd yn eu haddoliadau, a rhifedi eu gweddiau sydd yn sawri yn rhy drwm o hunan-gyfiawnder, ac ymgais am brynu y nef. Ond er mai o ryw arall yr oedd Fidelius, eto da genyf fyddai clywed pa sut yr ydoedd am y cyfiawnder sydd o ffydd; ac a ydoedd efe yn ymwadu â'r hwn sydd o'r ddeddf.

CANT.—Ni welais nemawr yn rhagori arno yn y pwnc hwn; chwi debyg'sech, o ran ei fanylrwydd i ymwadu â hunan—gyfiawnder, mai Antinomian ydoedd efe, ac wrth ei ymegniadau mewn dyledswyddau a'i ddiwydrwydd i arferyd moddion gras, mai Arminian ydoedd; ac wrth wastadrwydd ei fywyd a'i foesoldeb allanol, mai un o'r hen philosophyddion a gododd oddiwrth y meirw oedd efe. Anhawdd oedd cael dyn trwy y fro hono ag oedd yn dyrchafu CRIST yn fwy nag yr oedd efe; ei ymffrost oedd bod CRIST yn gyfiawnder,