Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dan ei athrawiaeth, yn barod i'w osod ef i fyny fel Herod gynt, yn lle Duw, a'i galon yntau yn goglais cymaint yn y cyfryw ddyrchafiad, ac ymlyniad y bobl wrtho, fel y byddai yn ymfalchio ac yn ymchwyddo o'r enw newydd ag mae ef am godi, ac ereill mor wag a'i gyflwyno iddo. Yna barna ef a'i ganlynwyr fod y sect newydd hon yn well nag un o'r hen sectau ag sydd a'u henwau wedi rhydu. Ac o'm rhan fy hun nid wyf yn mhell o fod o'r un farn a Fidelius yn y pwnc hwn, pan wyf yn gweled gweinidogion ag sydd wedi eu codi ychydig i fyny o'r dom mewn doniau, pan enillont rai dynion i'w pleidio, yn gwresogi o blaid sect yn fwy nag o blaid efengyl Duw; ac am enill dysgyblion iddynt eu hunain yn fwy na dychwelyd eneidiau o gyfeiliorni eu ffyrdd. Ac Ac yr oedd efe yn cadarnhau fy marn i o ddydd i ddydd, trwy ddangos nad oedd dim rhagor sel am un pwnc o'r ffydd, neu am doriad un gorchymyn o'r gyfraith, nag sydd am enwau, sectau, a barnau dynion. Pa bryd y twymo, eb efe, ac y gwresoga dyn ragor na phan y bo ei sect ef yn cael ei diystyru? nid oes na llw na rheg, na meddwdod na chyfeddach, na balchder na malais, nas maddeuir yn gynt na phechu yn erbyn yr enw hyny o ddynion ag a fo efe yn broffesu. Hyn, a chyffelyb i hyn, a berodd i Fidelius beidio cyfenwi ei hunan ar un enw mwy na'r llall; ac ni fynai chwaith yn hollol i roi ei hun i farn un difinydd neillduol mewn pwnc o athrawiaeth ; na chylymu ei hun wrth un gredo a gyfansoddodd Arminius, Baxter, Pisgator, Calfin, Luther, neu rai ereill o dduwinyddion mwy neu lai iachus na'r rhai hyn, am eu bod oll wedi rhedeg gormod ar ol eu deall eu hunain, a throi yr Ysgrythyrau at eu pynciau eu hunain ormod, a gwneud bob un wrhydion meithion o athrawiaethau, a rhoi enwau arnynt ag oeddent hwy yn tybied eu bod yn cytuno â'u gilydd, ac yna yn ceisio eu profi allan o air y gwirionedd. Ac at ddwyn hyn i ben y darfu iddynt ranu geiriau, briwio athrawiaethau, hollti yn ddau wirioneddau na holltodd gair Duw mo honynt. Yn fyr, yn lle goleuo y Beibl, ei dywyllu; ac yn lle ei ddwyn i fod yn dyst, ei wyrdroi at eu pynciau eu hunain; yn lle ymofyn eu pynciau o'r Beibl, ymofyn Beibli gadarnhau eu pynciau, bid hwy uniongred neu gyfeiliornus; hyn, meddaf, a osododd Fidelius i ddarllen gair Duw yn fynych ac yn fanwl, ac i dderbyn ei holl wirioneddau o enau Duw ei Hun, heb ymholi rhagor pa un a oeddent yn cytuno â'u gilydd ai peidio; ond credu y gair gyda thad y ffyddloniaid, yn unig am fod Duw wedi ei lefaru ef, a gadael yr Hwn a'i llefarodd osod un rhan i gydsynio a chydgordio â'r llall. Y Beibl mawr oedd corph difinyddiaeth Fidelius, ac ynddo yr oedd