Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi wn nad oedd efe ddim yn amddifad o'r rhagorfreintiau hyn, eto pa gyflawnder oedd efe yn ei gael sydd arnaf chwant gwybod; a pha un a oedd yn ei gernodio yn galed gan ddiafol? Ac os ydoedd, pa ddull yr oedd yn cario y dydd?

CANT.—Rhy faith yw adrodd haner a ddywedodd efe wrthyf am y pethau hyn; ac mi wn nas dywedodd i mi y ddegfed, os dywedodd y ganfed ran o'i brofiadau yn y rhyfeloedd poethion yma. Nid oes fawr o un a glywais i son am dano ag a gafodd bicellau mwy tanllyd nag efe, heb son am ddyfnder ei argyhoeddiadau, a'r curo fu arno gan Satan pan y galwyd ef allan o Ur y Caldeaid; trwy amheuaeth, annghrediniaeth, cabledd, calon-galedwch, a myrdd o wasgfeuon ereill oddiwrth yr ysbryd drwg; oddiwrth ba rai y cafodd ef ei wared pan y gwawriodd dydd arno, ac y cododd y seren ddydd ar ei ysbryd ofnus; ac y tystiolaethwyd iddo ei fod ef yn blentyn i DDUW, yn aelod i GRIST, ac yn etifedd i deyrnas nefoedd; heb son am y rhai hyn, meddaf, pa dorfeydd mawrion o ellyllon uffernol fu yn curo arno ar ei daith trwy yr anialwch mawr! Ar ol hyn yr oedd dychryn arnaf wrth ei glywed ef yn siarad am danynt; ond yr oedd efe yn addef wrthyf nad oedd efe yn abl adrodd ei wasgfeuon mwyaf, o ran eu bod tu hwnt i nerth dyn i ddal danynt. Fe ranodd ei brofedigaethau i mi yn dri math: sef yn gyntaf, y rhai oedd efe yn alw picellau tanllyd y gelyn Satan, y rhai sydd yn llymion ac yn gryfion fel saethau cawr, ac mor wenwynig ag y gall Satan eu gwneuthur; y rhai hyn sydd ddigyfrwng oddiwrth elyn dynolryw, ac yn gweithio ar y natur elynol i DDuw, ar annghrediniaeth, ar ddeall tywyll, nes gwneud terfysg di-gyffelyb; dyma y meddyliau cableddus sydd fel mellt yn trywanu trwy yr holl ymysgaroedd, yn ceisio temtio yr enaid i annghredu nad oes na Duw, na nefoedd, nac uffern, nac angel, na CHRIST, na Beibl nac iachawdwriaeth. Dyma y picellau sydd yn ceisio gan yr enaid felldithio Duw a marw! Oy fath boenau sydd yn y rhyfel hwn! Yma bu Fidelius yn chwysu yn galed wrth weddio yn erbyn myfyrdodau cableddus ag oedd yn difa mer ei esgyrn ef: dyma fath o demtasiynau ac y dywedodd wrthyf ddarfod iddo ddyoddef yn galed; ond deall yr oedd mai gwasgfeuon y gelyn oeddynt, ac ychydig raddau o'r cabledd anobeithiol sydd obry yn nghanol y fflamau tân; y rhai oedd yn codi i fyny fel gwreichion, ac yn cael eu gwthio gyda sawyr uffern i mewn i'w ysbryd lluddedig ef. Ond, ebe efe, nis caiff y rhai hyn eu cyfrif i mi, ond i'r diafol, ag sydd yn eu gyru hwynt o orchest, canys yr wyf yn meddwl nad oedd o'r cydsyniad lleiaf rhyngwyf â hwynt.