Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dân tân uffern; i garu yn annghymedrol boeth un gwrthddrych neu bleser, a chasau cymaint arall ar ryw wrthddrych gwrthwyneb; ymddiried yn, ac hyderu ar un creadur i'r radd uchaf; ac ofni, i'r gwrthwyneb, yn afresymol ryw greadur arall, ac nas rhaid ofni mo hono; fy serchiadau hyn sydd un pryd yn dymuno yn rhy danllyd un peth ag na f'o er lles i mi, a phryd arall yn ffieiddio yn ddireswm yr hyn allo wneud daioni i mi. O, fel yr wyf ar yr awr hon yn llawenhau am lwyddiant y creadur i mi; ac o ran fy mod wedi cael ei fwynhau i'r eithaf, a'm blys wedi cael ei borthi hyd ag yr oedd yn gofyn; ond yn y man yn tristau yn annghymedrol am iddo fyned yn eisieu arnaf, er ei fod yn well i mi ei golli na'i fwynhau. Fel hyn mae fy serchiadau i wedi ehedeg o'u lle yn y cwymp, ac wedi myned mor afreolus, terfysglyd, ac annhrefnus, nad ydynt ond enyn tân gwyllt a dyeithr oddiwrth yr holl wrthddrychau fu yn y byd; a phan y methont ffeindio gwrthddrych i maes ag allo eu henyn i lid, i gariad, i obaith, i lawenydd, i dristwch, hwy gofiant am wrthddrychau pell, neu hwy ddychymygant rai newydd ; ac felly lawer pryd enynant dân wrth eu gwres eu hunain. Ond yr ARGLWYDD, eb efe, a'm gwaredodd, nas cefais fod yn gaethwas i'm nwydau hyn; ond fel yr oeddent yn curo arnaf, felly Duw a'm nerthodd nas cefais fod yn hollol dan eu traed, ond a roddodd fuddugoliaeth yn ei werthfawr waed ei Hun. Ond gweled y nwydau hyn ynddo ei hun fu un o'r moddion cryfaf yn llaw yr Hollalluog, yr Hwn all droi pob drwg er daioni, i ddarostwng balchder Fidelius, ac i fagu ysbryd tirion, tyner, maddeugar, a hawdd ei drin ynddo at bob dyn; ac i'w roi ef yn berchen ar y cariad hwnw ag sydd yn credu pob dim, yn maddeu pob dim, yn ymaros â phob dim, ac yn gobeithio pob dim.

PERCON. O mewn, mae'n debyg, yr oedd y rhan fwyaf o'i brofedigaethau ef?

CANT. Yr ydych yn camsynied, canys cymaint, agos, gafodd ef o guro arno o maes; o herwydd nid yn unig llid, malais, a chenfigen yr annuwiol oedd am ei ddyfetha, ond hefyd rhagluniaethau croes a chystuddiau yn y corph, cystal a rhai yn ei enaid; a chafodd lawer o'r rhai hyn oddiwrth berthynasau, ac hyd y nod y dynion agosaf—tad, mam, brodyr a chwiorydd, gwraig, a phlant hefyd, yn gosod llwythau trymion o feichiau ar ei ysgwyddau yr un diwrnod. Fe fu Fidelius yn trafaelu y byd yn mhell ac yn agos, ac nid ychydig gystuddiau a threialon a gafodd ef o'r goror hwnw; fe fu ddwywaith neu dair ar fin priodas â rhai ag sydd heddyw yn y bedd, wedi i angeu eu tynu ymaith rai diwrnodau byrion o flaen y cwlwm. Fe gladdodd blant teg yr olwg, meibion a merched doeth a synwyrol, mewn hyfryd oed; fe ysgubodd y bedd ei