Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arswydlawn erbyn wynebu byd arall. Pa un a fydd bywydau y rhai olaf hyn yn rhybudd, Duw a'i gŵyr,-nac eiddo Fidelius yn esiampl chwaith; ond dymuno 'r wyf fendith ar naill fel y llall Os clywi neb yn gofyn paham na roiswn edifeirwch gwely angeu i Avaritius a Prodigalus, ateb-Am mai dyben hyn o lyfryn oedd dangos mor echrychus y bydd diwedd y rhai hyny sydd yn byw a marw yn eu pechod, heb adnabod Duw yn NGHRIST. Ond y sawl sydd yn cael edifeirwch i fywyd mae gwahanol oleuni, ysbryd, ac effeithiau ar eu dyddiau diweddaf nag sydd ar yr eiddo Avaritus a Prodigalus. Bydd wych.

Dy anwylaf frawd,

W. W.