Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd o'r un ysbryd, yr un dyben, a'r un gwaith, a therfynasant eu siwrnai yn yr un lle; ond y llall oedd yn amrywio mewn gwaith, dyben, ysbryd, ac egwyddor. Enw un oedd Avaritius, a gyfenwyd felly oddiwrth ei awydd gwyllt am gyfoeth; enw y llall oedd Prodigalus, am ei fod yn annghyffredin afradlon, ac yn gwneud duw o'i fol; ond y trydydd a gyfenwid Fidelius, ac efe oedd Gristion.

PERCON.—Dechreuwch, ynte, adrodd bywyd Avaritius; canys y mae llawer iawn o rai yn fy ngwlad inau yn haeddu yr enw, er eu bod yn myned yn fynych tan yr enwau o hwsmyn da, gwŷr call, pobl onest; a hwy yw y rhai mwyaf parchus o fewn ein bro ni y dydd heddyw. Ond ewch rhagoch.

CANT.—Yr Avaritius hwn oedd o dylwyth Nabal y Carmeliad, yr hwn a ballodd ychydig fara i frenin Israel pan oedd efe a phedwar cant o wŷr mewn caledi mawr o eisieu lluniaeth; ac fe'i lladdwyd ef gan DDUw am ei gybydd-dod a'i galon-galedwch i eneiniog yr ARGLWYDD. Efe a anwyd yn nhir Sodom, lle yr oedd trachwant yn llifo fel afon yr Aipht, ac fe ddaeth i fyw yma mewn ymchwil am gyfoeth. Ac nid hir y bu ef heb gael ei ddymuniad; canys er bod ei ddechreuad yn fychan, eto ei ddiwedd a gynyddodd yn ddirfawr ei anifeiliaid a luosogasant fel anifeiliaid Job, a'i aur fel aur Cresus; ei dyddynod a gysylltwyd y naill at y llall, nes cael dan ei draed dir heb fesur, a'r tlodion yn gruddfan o eisieu lle; nid oedd mewn amldra defaid, geifr, gwartheg, ac asynod gyffelyb iddo yn holl dir yr Aipht. Yn fyr, pob cyfoeth a redodd iddo fel afonydd yn rhedeg i'r môr mawr; a phe buasai byw ond ychydig flynyddau yn rhagor, fe ddaethai i fod yn arglwydd ac yn ben ar y drydedd ran o'r wlad eang hono.

PERCON.—Ond pa fodd y daeth ef iddynt? pan dywedasoch fod ei ddechreuad ef yn fychan. Ai trwy gynildeb bwyta, yfed, gwisgo, neu trwy ddiwydrwydd, codi yn foreu, a myned yn hwyr i gysgu?

CANT,—Nid cymaint trwy un o'r rhai hyn a thrwy ei awydd didor am gyfoeth; ei gyfrwysdra rhyfedd i dwyllo, ei ddichell anorchfygol yn mhob bargen; fel yr oedd mwy na'r naill haner o'i gyfoeth yn lladrad oddiar y gweiniaid, y rhai sydd y dydd heddyw wedi cymeryd adenydd ac ehedeg ymaith, na wyddus yn iawn i ba le; ond bod eu rhwd hwynt yn ei ysu ef fel tân yr awr hon, ac a bery felly byth mwy. Gwir yw nad oedd ei fwrdd ond tlawd ac unig; unrhyw ymborth trwy gydol faith y flwyddyn, a hwnw yn hen, yn galed, ac yn wydn; nid oedd na grym nac ysbryd yn ei ddiodydd, na neb dyeithriaid o ŵyl i ŵyl, nac o leuad i leuad