Wrth glywed eu Saes'neg hwy'n hyny o fan,
Ymron piso gan anhapusrwydd.
Ac yntau'r Stewart nid oedddim stayo,
Ond Come forth, what else ye Cymro?
Your land will be set for better prîs
Don't you be foolish fellow.
Ac ynteu'r hen Denant bron a diwno,
Heb wybod be' i'w ddweydyd, ond diodde 'i wawdio,
A begio ar un o wyr ei wlad,
Mewn tristwch, siarad trost.
Ac f'allai hwnw, 'r unfath a Haman,
Yn cymryd y tyddyn iddo'i hunan,
A'r dynan truan, gan ffalsder trwch,
Yn ei d'wllwch, raid fyn'd allan.
Ac felly dyna hwnw'n gorfod myned,
Wedi colli'i fywioliaeth iddo 'i hun a'i 'nifeiliad,
Ac fe allai y plant yn myn'd ar y plwy'.
Yn bwysau mwy ar denantiaid.
Dyna'r meistr a'i denant heb gael dim daioni,
Ond" codi'r Stewardiaid yn falch ac ystwrdi,
'D oes ryfedd beynydd yn y byd
Fod cymaint o lid a th'lodi.