Tudalen:Tro Trwy'r Gogledd.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

——————

Y mae tuag ugain mlynedd er pan ysgrifennwyd y nodiadau hyn,—nodiadau brysiog gŵr ar daith. Rhoddwyd ambell gywiriad ynddynt, ac ambell ddernyn o ychwanegiad; ac feallai fod y darnau o frethyn newydd yn wahanol eu lliw i'r hen frethyn, ac yn ei gyfarth.

Mae bywyd y byd yn gweddnewid yn gyflym iawn yn y blynyddoedd hyn; ac y mae llawer o'r cyfeiriadau sydd yma,—yn enwedig cyfeiriadau gwleidyddol,—wedi colli eu dyddordeb os nad eu hystyr.

Mae llawer un a enwir yma na chaf glywed ei lais mwy. Gwelais y tyrfaoedd yn arwyl Thomas Ellis yng Nghefn Ddwysarn, clywais roddi Silvan Evans i huno yn Llanwrin, gwelais garreg las a llythrennau aur ar fedd Charles Ashton yng nghornel eithaf mynwent Mallwyd. Ni chaf weled mwy yr hen athraw gasglai waith Edward Morris yng Ngherrig y Drudion, nac yntau adroddai hanesion cyfnod y chwyldroadau imi ar riw Harlech, na'r hwn fu'n son yn gynnil wrthyf am hen ddefodau Mawddwy. Mae pentref Llan ym Mawddwy, fel y ceisiaf fi ei ddarlunio, wedi diflannu; nid oes neb o deulu Ceiriog ym Mhen y Bryn heddyw, nac o deulu Richard Morris yn Nant y Glog. Mae llawer gallu newydd wedi dod i fod,—llawer ysbryd