Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel gwaith basged. O'r tu mewn dwbiwyd hi â haen o laid a thom gwartheg. Wynebwyd yr haen yma, drachefn â chaenen deneuach o bren pwdr weithiasid gan yr edn yn gymrwd drwy gymorth ei bawr gludiog. Defnyddiodd ei big i'w roi yn ei le, a'i fron, frech, gron, i'w lyinhau. Erbyn hyn mae wedi sychu a chaledumae fel cwpan Delfft,-ac nis gall na dwr nac awyr ei dreiddio. Angenrhaid yw'r ddarpariaeth yma, gan y nytha y bronfraith, fel y deryn du, ar ddechreu'r Gwanwyn, pan yw'r hin, fel rheol, yn oer ac afrywiog. Onid yw'r wyau,—bump o honynt,—yn ddel ar waelod llyfn y nyth? Glas yw eu lliw, ac wedi eu brychu, yn eu pen praffaf, ag yspotiau dyfnlwyd, bron yn ddu. Dywedwch i mi, pa un ai hwy ai yr awyr lâs-fannog uwchben sy dlysaf?

Ust! glywch chwi'r siffrwd rhwng cangau'r pren cyfagos? Y deryn yswil, pryderus, sy yna -dacw fe, welwch chwi-yn dychwelyd yn araf a gochelgar i ysbio sefyllfa y gelyn. Cadwn yn reit ddistaw a llonydd. Daw yn nes, nes, nes, o fesur cangen a changen. Disgyn ar frigyn yn ein hymyl, ac edrych oddeutu. Mae ei gynffon-o liw'r orange—tuag atom; a'i gefn gwineulwyd llyfn yn crimpio. Yn sydyn try ei ben y ffordd yma. Welwch chwi ei fron wenfelen fannog? a'i cenfydd ni; ymwylltia; rhydd here y ffordd hyn, a herc y ffordd acw. "Swith!" "Sw-i-i-sh!" dacw fe i ffwrdd eilwaith. Daw'n ol toc.

Pyncia aderyn bychan, llai na'r cyffredin, ar un o'r cangau oddiarnom. Tebyg yw ei gathl i roundelay yr asgell arian—y ji-binc—ond ei bod yn fwy tyner a merchedaidd. Mae'n fwy