eiddo ei gyfathrach, y bronfráith, mae'r ddau o dylwyth cerddgar y mwyeilch (merulidae) er hynny, mae yn felus odiaeth, fel sain dyner, lawn, loddedig mosbib yr organ. O, adar! pwy a roddes i chwi eich cerddi anghydmarol? Pwy gyweiriodd dannau eich telynau? Pwy a'ch dysgodd i'w canu? Cenwch adar! Eich tymor nwyfus chwi ydyw, tymor cyfareddol carwriaeth a chân. Ni phery eich gwynfydedd yn hir. Cenwch tra gellwch. Eiliwch garolau i wrthrychau eich serch, plethwch riangerddi deniadol iddynt. Mae'r gân a'u swyna hwy yn ein gwynfydu ninnau. Cenwch!
Symudwn ymlaen i chwilio am ein haderyn. Mae'r wig yn fyw drwyddi o adar-rhai yn diwyd gasglu eu lluniaeth; rhai, fel y bronfraith a'r aderyn du, ar frigau'r gwŷdd yn canu, canu; rhai yn gwib-hedeg, dan chwitian, chwitian o lwyn i lwyn; tra ereill ar yr aden, yn cydgam â'u gilydd, ac yn nwyfchware fel cariadon ieuenctid-a'u hyswitiadau ysgeifn, tyner, fel cyfrin sibrydion serch.
Ond pa le mae'r "coch?" Aderyn swil, cilgar ydyw, a chyfrwysed fel y rhaid wrth ochelgarwch a chyfrwystra, o'n tu ninnau, er cael onid cipolwg arno. Ond, beth yw'r aderyn bychan cochlwyd yna sydd yn hwbian ac yn hedeg mor aflonydd, o gangen i gangen, ym món y gwrych, weithiau'r ochr yma, weithiau'r ochr draw? Ust! mae yn ein gweled, mae yn tarfu, cymer ei aden, eheda yn isel, a disgynna nid nepell oddiwrthym, i fón y gwrych eto fyth, ac oddiar bincyn yno, yng ngwyll y cangau uwchben, anadla i'r awyr gyngan ferr, felus, gwynfannus, fel plentyn gorthrymder yn