Farddanadlen Ddu,[1] Clych y Perthi,[2] Sisli Pêr,[3] a Thegeirian Coch y Gwanwyn.[4] Dacw Lygad Ebrill[5] melyn-liw wedi agor, a'i fflurddail fel pelydr seren. Dyma hoff flodyn Wordsworth, ac i hwn y canodd,—
Pansies, lilies, kingcups, daisies,
Let them live upon their praises;
Long as there's a sun that sets,
Primroses will have their glory;
Long as there are violets,
They will have a place in story;
There's a flower that shall be mine,
'Tis the little celandine."
Wrth ei ochr mae blodyn gwyn tyner yr Anemoni[6] yn edrych ym myw llygad yr haul,—
Ust "wit!"—swit!"—"swiit!"—"swit!" O'r diwedd, dyna dinc dyner y deryn coch. Gwrandewch,—"Swit!"—"swit!" "sw-i-i-t!"—" swit!" Mae'r ffrillion fel chwibaniadau isel, leddf, neu dinciadau ysgeifn, melusber aurglochig yn cael eu cludo o bell, ar aden yr awel. Dyna "swit" yn ateb "swit." Mae yna ddau aderyn-feallai fwy. Pa le y maent? Nid nepell. Edrychwn i'r ddraenen uchel sy gyferbyn â ni. Dyna aderyn yn codi o honidyna un arall—ac yn hedfan—
- ↑ Ballota Nigra, Black Horehound.
- ↑ Campanula trachelium, Canterbury Bells, Nettle-leaved Bell-flower.
- ↑ Myrrhis odorata, Sweet Cicely.
- ↑ Orchis Mascula, Early purple Orchid.
- ↑ Ranunculus Ficaria, Lesser Celandine, Pilewort. Mae y blodyn hwn wedi ei gerfio ar feddfaen fynor y bardd.
- ↑ Anemone Nemorosa, Wood anemone, Wind-flower.