PRIODAS Y BLODAU.
"I know a bank where the wild thyme blows,
Where oxlips, and the nodding violet grows;
Quite over-canopied with luscious woodbine,
With sweet musk-roses, and with eglantine."
—A Midsummer Night's Dream.
"From branch to branch the smaller birds with song Solaced the woods, and spread their painted wings Till even." —Paradise Lost.
A holl goed y maes a gurant ddwylaw." —Isaiah.
PRYDNAWNGWAITH hyfryd o Fai ydyw. Mae'r hin, fu'n oer yn hir, wedi tyneru megis ar unwaith. Mae naws haf ar yr awel. Mae newydd fwrw cafod—drwy haul—o wlith-wlaw maethlon, esmwyth. Erbyn hyn—pump ar y gloch mae'r cymyl teneuwe fu'n brychu wyneb y wybren wedi ymwasgaru fuaned bron ag yr ymgasglasent, ac wedi diflannu fel "niwl boreol. 'Rwan lleufera'r Huan, heb bylni, yng ngloew lesni'r nefoedd, ac y mae iddo eto encyd o ffordd cyn cyrraedd ei "gaerau yn y gorllewin." Mae côr y wig, mewn asbri'n canu. Clywaf y gynghanedd o'm cadair yn y ty, gliried, ucheled yw cywair y gân. Os mynnwch glywed y côr asgellog ar ei oreu—yn ei afiaith min nos tawel o Fai, 'rol defnynnu o'r wybrennau wlith, yw'r adeg. A fuoch chwi 'rioed yn