Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid o'r brigyn fel robin—tery dant cwafriol, gwefrol, nes adsain o'r goedwig. Un arall, ac arall. Gliried yw'r nodau! Eofned yw'r tinc! Pwy feddyliasai y cawsid miwsig mor llawn, mor nerthol, o delyn fychaned! Clywch! Ym mon y gwrych tery gwas y gog dant ar ei delyn yntau. Mae tinc, tinc ysgafnglych yr eurbinc a'r deryn coch, a twinc, twinc sionc yr asgellarian yn disgyn ar ein clustiau o'r prysglwyn draw; a trill y llinos swil o'r wybr uwchben.

O'n blaen mae hen gloddfa gwaith plwm a adawyd ers talm. Gorchuddir y graith gan gwrlid gwyrdd o blufwsogl mwyth-ysgafn. Drwyddo yr ymwthia y llawredyn,[1] a'r gandwll,[2] a'r filddail,[3] a'r syfi teirdalen,[4] a'r goesgoch[5] aroglus arianflew. Mae ymylwe deilgangau mân, delicate, y mwswgl yn wyn-glaer gan berlog wlith. Lleda ac estyn y goesgoch ei hesgeiriau ysgafn drosto, ac o'i haml gymalau y cyfyd coesigau yn dwyn naill ai blodau rhosliw, rhesi arian, neu ynte hadgibau tlws, fel tassels, a'u meinflaen ar ffurf mynawyd neu big yr aran. Gwelwch dlysed yw'r dail o wyrdd ac o goch. Mae fel ysnodenau cyrliog ar fron y cwrlid! Llenwir y rhigolau sy rhwng y cerrig gan y

  1. Polypodium: polypody—llawredyn y fagwyr.
  2. Hypericum perforatum: perforated St. John's Wort —candoll, eurinllys trydwll.
  3. Achilla Millefolium: common yarrow, milfoil—gwilffrai, llysiau y gwaedlif.
  4. Fragaria Vesca: wood strawberry—mefus y goedwig.
  5. Geranium Robertianum: Herb Robert—troed-rudd, llysinu Robert.