Wel, beth yw'r planhigyn cydnerth a gwrol a brigog yma, sy'n ffynnu fel y lawryf gwyrdd, ac yn blodeuo fel palmwydden yn nhawch, a mwrllwch, ac oerni v gaeaf? Mi ddywedaf wrthych. Adnabyddir ef wrth
yr enwau crafanc," neu "droed," neu "balf,' neu "bawen yr arth."[1] Weithiau hefyd gelwir ef yn "llewyg y llyngyr," a phrydiau ereill yn yn "llun troed yr arth."
Cliriwn ymaith y crinwydd a'r sychwellt o'i amgylch er cael gwell golwg arno. O'i droi a'i drosi cyfyd sawyr cryf ac anhyfryd oddiwrtho. Mae ei fonyn anystwyth yn dwyn ar ei risgl glasliw nodau a chreithiau dail mwy nag un tymor. Welwch chwi, mae'r dail wywodd ddiweddaf ynglŷn wrtho eto, ac er hen farw o honynt, a chrebachu, a chrino, a chori, eto, nid o'u bodd ac nid heb graith yr ymadawant hwythau, mwy na'u rhagflaenoriaid, â'r cyff epilgar a'u dygodd. Ni wywa y planhigyn hwn at y ddaear yn flynyddol fel y danadl, a'r tafol, a'r ysgall, a bysedd y cwn, a charn yr ebol, a'r ddeilen ddu dda, a siaced y melinydd, a chacamwci a chwewll y mynach, a llawer ereill allaswn enwi. Derfydd y dail yn eu tro, fel to ar ol to o ddynion, ond nid cyn ymagor ac ymddablygu o ereill i gymeryd eu lle ar y boncy ff. Felly erys y llysieuyn, yn ei fonyn a'i frig, fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, bob amser yn laswyrdd, bob amser yn siriol.
- ↑ Helleborus foetidus, stinking hellebore; setterwort. Perthyn y llysieuyn yma i lwyth crafanc y frân (ranunculaceae). Aelodau o'r llwyth yma yw blodyn y gwynt, a'r gyllt, a llygaid Ebrill, a barf y gŵr hen, a gold y gors, &c.