Gwibiodd fy llygaid dros lawer o bethau, a'm pregethau'n rhwystro i'm meddwl ymsefydlu ar ddim hyd nes y disgynnodd fy ngolygon ar bennill dynnodd Christmas Evans o Milton,—
"Ni bydd gwrthdaro'n bod
I anghymodi'r gân,
Ond bydd pob sant a'i glod
I'w glywed ar wahan;
Ac eto i gyd, fel taran gref,
Gwnawn swn melusaf glywodd nef."
Tra'n meddwl tebyg i beth oedd y capel, a thra'n meddwl fath un oedd Daniel Rowland, tarewais ar y darluniad hwn o hono o waith Christmas Evans,—
"Yr wyf fel pe gwelwn ef wedi ymwisgo yn ei wn du, yn agor drws capel bychan, ac yn ymddangos yn y pulpud. Yr oedd ei wynepryd wedi ei wisgo â mawredd ydoedd yn arddangos synwyr a hyawdledd. Ei dalcen oedd uchel, a'i lygaid yn dreiddgar, ei drwyn ydoedd Rufeinig neu eryraidd, ei wefusau yn weddus, a'i en yn taflu ychydig; ei lais ydoedd soniarus ac uchel seiniol."
Ehedodd fy meddwl at y bod bychan llwyd fyddai ym mhulpud Rowland drannoeth, gyda bychander yn argraffedig ar ei wyneb, a thlodi meddwl wedi rhewi yn ei lais. Tybiwn fod y llinellau nesaf ddarllennais, darluniad Eryron Gwyllt Walia o'r eira, yn ddarlun o effaith fy mhregeth ar gynulleidfa,—