Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Os at siarad y mae ceg wedi ei gwneud, yr oedd ceg y wraig honno wedi ei hen orffen. Ond os dylai fod yn ddistaw ar brydiau, fel trwy ddamwain, yn sicr yr oedd ei pheiriannau llafar yn anorffenedig, gadawyd iddynt redeg cyn rhoi'r stop, a rhedeg y maent byth.

Yr oeddym yn newid ein tren yn y Mwythig, a'r golygfeydd, a'n cwmni. O wastadedd hen Faelor, troisom i'r de, a dechreuodd y tren redeg yn chwyrn gyda godre mynyddoedd Cymru tua Henffordd. Wrth basio Church Stretton gofynnodd Ifor Bowen i mi a oedd bosib cael golygfa dlysach yn yr Alpau, ond cyn i ni gyrraedd Llwydlo yr oedd ei gyd-deithwyr wedi tynnu ei sylw, ac ni ches gyfle i adrodd dim ar a wyddwn am yr hen le y llywodraethid Cymru o hono yn y dyddiau gynt. Ar ein cyfer yr oedd pedwar o fodau, yn llenwi'r fainc. Yn agosaf at un ffenestr yr oedd hen amaethwr corffol, yn meddu wyneb plentyn direidus. Yn nesaf ato yr oedd coediwr neu glocsiwr, yn meddu'r gwefusau hwyaf a welodd Ifor Bowen a minnau erioed. Y mae pobl godre Sir Drefaldwyn yn hynod am hyd gwefus, ond ni welais i debig hwn yn Llansilin na Llanfyllin. Nid o ran fod ei geg yn fawr, — gwelsom ar ein taith ddynion a chegau fel blychau tybaco, ond yr oedd llawnder a hyd yn ei wefus wnai ei wên yn ddigrifol iawn. Yn nesaf at Jon y Geg yr oedd person eglwys, a wyneb fel arch. Dyn hir ydoedd, mewn dillad duon, fel hen gloc derw. Nis gwn beth a wnai ei wyneb mor hagr, — feallai mai'r cyferbyniad rhwng ei wep welwlas angeu a'r cnwd o flew duon a dyfai ar ei ddwy gern. Ofnai Ifor Bowen iddo fod yn fwy o ddychryn na’r un deryn corff i lawer dyn claf. Rhyngddo a'r ffenestr yr oedd gweithiwr tyn ffroenuchel, tebig i'r rhai fydd yn cadw llygad beirniadol ar y blaenoriaid yng Nghymru, a chadwen efydd felen ar ei wasgod rips. Ni ddywedod neb ac nid oedd yn awr ond ychydig o amser i syllu ar y pedwar wyneb hyn. Wedi gweled eglwys gadeiriol Henffordd am y tro olaf, ni sylwasom ar ein cyd-deithwyr, yr oedd Sir