Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bysedd budron a llais gwan roi rhy fach o newid inni. Rhedasom i ffarwelio â phobl y gwesty, a daeth y llanc siaradai Lydaweg i ddangos y llong ager oedd ar gychwyn i fyny'r afon i Ddinan.

Prin yr oeddym wedi gosod ein hunain yn gyfforddus ar fwrdd y Bretagne, pan ddaeth y cadben atom i ddweyd fod pedair Saesnes mewn trybini mawr. Eis atynt, ein hen gyfeillion, a chlywais hanes tywydd garw. Nid oedd neb yn y gwesty fedrai siarad Saesneg wedi'r cwbl, a doedd dim i'w wneud ond gadael iddynt gymeryd faint a fynnent am bopeth. Yr oedd y tair merch wedi bod mewn ysgol yn dysgu Ffrancaeg am dair blynedd, — y fam oedd yn dweyd yr hanes,— a dyma hwy heb fedru siarad yr un gair. A mwy na'r cwbl, yr oedd y llong ar gychwyn, a'u celfi hwythau heb ddod, er eu bod wedi talu am eu cludo. Anfonwyd ein Llydawr bach i chwilio am y pethau, a chafwyd hwy'n ddiogel i'r llong cyn iddi gychwyn. Cawsom fordaith hyfryd i fyny'r afon Rans. Yr unig ddolur llygad i ni ar y bwrdd oedd dau Ffrancwr a dillad newydd danlli, yn ceisio denu sylw rhyw eneth brydweddol oedd ym mhen arall y llong. Pan adawodd y llong gysgod y cei, daeth awel a chipiodd hetiau gwellt y ddau ymaith, gan eu troelli a'u chwyrlio hyd wyneb y dŵr cyn gadael iddynt suddo. Ffasiwn Ffrainc o wneud gwallt ar hyn o bryd ydyw ei dorri yn y gnec ; yr oedd conion gwallt y ddau hyn fel brws scwrio neu gol haidd. Eisteddasom ym mhen blaen y llong wrth iddi forio i fyny'r afon, a theimlem wrth weled y fforestydd a'r adfeilion cestyll ein bod yn myned i Lydaw ac yn ol i'r hen amseroedd. Yr oedd yr afon yn llydan a'i dwfr yn hallt tan gyrhaeddasom Chatelier. Yma y mae dyfrddor, a thra'r oeddid yn codi'r llong yn hwnnw yr oedd amryw gardotwyr yn dweyd wrthym am eu cyni ar y lan. Yr oedd un dyn mawr unfraich hagr yn cadw sŵn erchyll, a hen ŵr bychan yn gwneud dim ond dal ei het yn ddistaw. Daeth y fam Seisnig ataf i ofyn a daflwn ddernyn arian drosti i het yr hen