Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dawel, ac wrth weled goleuni gwan llusern bell cofiasom am hanes geneth amddifad Lannion," un o'r traddodiadau sy'n dangos ofergoeledd Llydaw ar ei dlysaf.

"Mewn gwesty yn Lannion gwasanaethai morwynig amddifad, a'i henw oedd Perinaic Mignon. Rhowch ini win i'w yfed, dyma'r arian, a rhowch inni rywun i gario llusern i'n goleuo adre'. Pan wedi mynd ychydig o bellter, edrychasant ar y forwynig, a dechreuasant siarad yn isel a'i gilydd. 'Blentyn tlws, mae'th ddannedd a'th groen mor wyn ag ewyn y lli.' Gadewch fi fel yr ydwyf, fel y gwnaeth Duw fi; pe bawn fil tlysach, nid ydyw hynny'n ddim i chwi. Mae'th eiriau'n foneddigaidd blentyn, a fuost yn ysgol y lleianod?' Na, cefais fy meddyliau ar aelwyd fy nhad. Gwell gennyf na'u hanghofio fy nghladdu'n fyw, fy nhaflu i waelod y môr.' "Mae gwraig y gwesty'n disgwyl am ei morwynig, yn disgwyl dan ddau o'r gloch y bore, dwy awr cyn torri'r dydd. 'Cwyd, wyliwr, i achub geneth sy'n marw yn ei gwaed!'
Cafwyd hi wrth groes Ioseff Sant yn farw. Yr oedd ei llusern yn ei hymyl, yn goleuo o hyd.
"Mae dau ddyn ar y crogbren. Bob nos wedi hynny, gwelid llusern fechan a goleu gwan wrth droed croes Ioseff Sant. Cyn hir daeth amser penodedig marw'r eneth, pe na lofruddiesid hi. Aeth y goleu'n fwy, fwy; cymerodd ffurf geneth mewn gwisgo oleuni; lledodd ddwy aden, ac ehedodd i'r nef.'

Y peth sy'n gwneud hen ryddiaith Gymreig yn well anghymharol na rhyddiaith ddiweddar ydyw ei symlrwydd. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng arddull syml, fyw, eglur y Mabinogion ac arddull chwyddedig, afrosgo, anaturiol yr oes hon. Y mae'r bai am y dirywiad wrth ddrws dau ddosbarth o bobl, — y beirdd a phobl y papurau newyddion. Daeth rheolau cynghanedd i fod, ac yr oedd yn rhaid i'r beirdd ddweyd yr hyn oedd ganddynt i'w ddweyd, nid yn eu dull eu hunain, ond yn ol rheol. O hynny allan nid y meddwl sy'n rheoli'r iaith, ond yr iaith sy'n rheoli'r meddwl. A dyna lu o eiriau llanw a beirdd llanw. Ychydig feddai ddigon o athrylith i ddweyd meddyliau swynai'r Cymry yn yr hen amser; ond yn awr gall pob un, — os medd ddigon o hunanoldeb a diffyg synwyr i wneud