Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i eistedd, a thair ystafell wely. Yn yr ystafelloedd bychain hyn y mae dodrefn rhad newydd, — cypyrddau o ddel wedi eu paentio'n felyn, a chlapiau gwydr; llenni gwynion ysgeifn grôt y llath; papur brith coch a du a melyn; a darluniau lliwiedig mawr o frwydr Austerlitz, gorsaf y ffordd haearn, a thứr Eiffel. O flaen yr adeilad y mae goriwaered di — laswellt, wedi ei orchuddio â darnau poteli, yn rhedeg i lawr i fin y môr. Wedi gorffen y tŷ, rhoddwyd darluniad fel hyn ohono yn y papur newydd, —

" BRYN IECHYD, Binic. Palasdy newydd ardderchogar lan y môr. Dodrefn newydd cain a harddwych. Saifar lethr bryn rhamantus a hyfryd. Y mae'r olygfa geirohono'n arddunol i'r eithaf. O'i flaen ymestyn y môryn ei holl anfeidroledd. O mor gain ydyw pan fo'r lloeryn arllwys ei goleuni tyner ariannaidd arno ! Cartrefiechyd a dedwyddwch. Rhent, ugain swllt y mis."

Rhoddir darluniad mewn un Llawlyfr i Deithwyr' o greigiau'r afon Rans, creigiau sy'n rhyw chwe throedfedd o uchter ar gyfartaledd, —

" Ymgyfyd creigiau aruthrol yn hyf tua'r nen.Ar eucopaau blodeua'r eithin yn gain. O mor brydferth! Ogeinder tlws a mawreddol aruthredd cymhlethedig ! Weithiaumeddiennir ni gan ddychryn wrth syllu arnynt, dro arallwylwn mewn cydymdeimlad.Yr hotel oreu yn Ninan yw Hotel y Bendigedigrwydd.Y mae yno gogydd ardderchog. Prisiau rhesymol.'

Hawdd coelio fod yr iaith yn colli ei nerth, pan ddefnyddir ei geiriau cryfaf i ddweyd y pethau mwyaf dibwys. Pe bai'r byd yn dechre llosgi, neu pe doi diluw drosto eto, ni fedrid dweyd wrth Ffrancod beth fyddai'n bod, meddylient fod perigl i nant foddi chwilen, neu i nyth dryw fynd ar dân. Un o'r pethau olaf wyf yn gofio yn Ffrainc ydyw gweled gwas ffordd haearn yn dod at gerbyd lle'r eisteddai Ifor Bowen a minnau a rhyw blentyn, ac yn dweyd, — " Paratowch eich tocynau, chwi holl drigolion y cydfyd."