XII.
YNYS ARTHUR.
"The island valley of Avalon,
Where falls not hail or rain, or any snow,
Nor ever wind blows loudly."
TENNYSON.
AMSER du, oedd y geiriau cyntaf glywais bore dydd Llun, ac ateb Ifor Bowen, — " Na, amser gwyn." Ifor oedd agosaf i'w le, — yr oedd niwl glaswyn yn gorchuddio'r dref a'i choed, a gwlith — wlaw'n disgyn o hono. Ger llaw ein tŷ yr oedd cerbyd bychan ar gychwyn i Be’rhos a Threcastell, heibio'r fan lle dywed y Llydawiaid fod Arthur Fawr yn huno. Gosodasom ein hunain ar un o'r ddwy fainc oedd ynddo, a chyn hir yr oedd cymaint o lwyth ohonom fel y bai'n dda gennyf gael mynd allan, oherwydd cydymdeimlad a'r ceffyl bach buan oedd yn ein tynnu, ac oherwydd fod y lle gawn i'm coesau'n rhyfeddol gyfyrg. Ni fedrwn symud oddiar ymyl gul y cerbyd, hyd yn oed pan fyddai chwip y gyrrwr yn troi'n rhy agos at fy mhen neu pan fyddwn yn cael fy ngwthio drosodd i eistedd ar gant yr olwyn. Yr oedd dyn mawr tew yn y cerbyd, a bum yn synnu laweroedd o weithiau mor hawdd y bydd dyn tew'n disgyn, wrth ei bwysau ei hun, i'r lle mwyaf cysurus ymhobman. Yr oeddwn i'n gysurus wrth gychwyn, ac yn ceisio gwneud englyn i got y dyn tew oedd yn crogi dros y cerbyd; ond cyn hir, trwy ryw ddirgel ffyrdd, yr oedd y dyn tew wedi symud i ganol y cerbyd, a minnau'n ofni bob munud y byddai'r olwyn yn cyffwrdd â mi. Er hynny, cefais beth difyrrwch. Dywedai'r Llydawiaid enwau lleoedd wrthyf, — Caer Efoar, Maesmor,