Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGDRAETH.

GAN Y PARCH. WILLIAM LEWIS,
PONTYPRIDD.

Yn oedd yn dda iawn gennyf glywed ei fod yn mwriad fy nghyfaill a'm cyd-deithiwr, y Parch. D. Cunllo Davies, i ysgrifenu hanes y daith trwy Ynysoedd India'r Gorllewin,—taith hapus a dyddorol dros ben. Gwyddem o'r blaen ei fod yn ddyn sylwgar; a gwelsom ef ar y daith lawer o weithiau yn arfer y gallu hwnnw sydd mor werthfawr i deithiwr, ac yn cymeryd nodiadau ar dir ac ar fôr; yr oeddem yn disgwyl gan hynny rhywbeth o'i law gwerth i'w ddarllen pan y cyhoeddid ei gynyrchion. Ac ni chawsom ein siomi. Ychydig ddyddiau yn ol daeth y copi mewn llawysgrifen i'n llaw, a darllenasom ef rhag blaen, gydag aiddgarwch nid bychan; ac wrth ei ddarllen teimlem ein bod yn tramwy y llwybrau a mwynhau y golygfeydd unwaith eto.

Taith i'w chofio ydoedd i ni ein dau. Bu yn adferiad iechyd i un o honom ac yn arbediad bywyd, ac yn adgyfnerthiad mawr i'r llall, ac yn estyniad einioes, ni gredwn, ac ychwanegiad i ddefnyddioldeb bywyd y naill a'r llall, ac eangiad i'n meddwl. Rhoddodd hefyd awch newydd i'n gallu i fwynhau bywyd. Daeth addewid werthfawr gennym o ddechreu y daith hyd y diwedd. Dyma hi:—"Ac wele fi gyda thi: ac mi a'th gadwaf pa le bynnag yr elych, ae a'th ddygaf drachefn i'r wlad hon, o