Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y CYMRY.

GWAITH pleserus yw diolch i garedigion lên Cymru am fy nghynorthwyo i gyhoeddi'r gyfrol hon; cefnogaeth barod a serchog fy nghenedl ym Mhrydain a'r Amerig a'm calonogodd i'w dodi ger bron y cyhoedd. Bu Mr. VINCENT EVANS a Chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol mor hynaws a chaniatäu cyhoeddi pryddest arobryn Bangor. Casglodd nifer o gyfeillion caredig enwau tanysgrifwyr i'r llyfr, a rhoddasant gymorth gwerthfawr wrth drefnu'r rhestr. Gwelir ei bod yn hir, ond ofnaf imi anghofio rhai o'r sawl a rodd eu henwau ar dafod leferydd. Ni fedraf ond diolch o'm calon i bawb; a maddeuer imi fy nghof rhydwll. Ceir yn y gyfrol amryw ddarnau a gyhoeddasid eisoes; os gofynnir esgusawd am eu casglu at eu gilydd, cyffesaf na feddaf un. Wrth gynnyg goreu awen anaeddfed i'm cydwladwyr llen-gar, nis gallaf fwy na gobeithio y ceir rhywfaint o bleser o ddarllen fy ngwaith, a dymuno yng ngeiriau'r prifardd y

"Ca nghenedl well cynghanedd."

R. S. R.
Calangauaf, 1904.