Ac ar ol codi allan, yn pechu'n syth,
Heb deimlo byth mo'r pethe.
Ow'r hen bobl! os yw rhai ieuenc heb wybod,
Fe ddylech chwi feddwl fod eich oes bron a darfod,
Ac fealle lawer gwaith wedi bod yn sâl,
Dyma heno i chwi siampal hynod.
Felly ffarwel i chwi i gyd ar unweth,
Chwi wyddoch nad yw hyn ond rhyw act neu chwar'yddieth:
Ond ni bydd gan Ange ond chware prudd,
Chwi welwch, ddydd marwoleth.
Rhys. Wel, rhwydd-deb i bawb lle rhodio,
Os bydd meddwl gonest ganddo,
Ni ŵyr llawer un gychwyno'n ddi-rôl,
A ddaw e yn ol ai peidio.
Mae oferedd ymhob rhyw fwriad,
Sydd yn y byd mewn treigliad,
Gwagedd ac oferedd yw cyfoethog a thlawd,
Pan fo diwedd pob cnawd yn dwad.
Rhaid i bob llestr mawr a bychan,
Sefyll yn hynod ar ei waelod ei hunan;
Fe dderfydd y cynnwr' a'r dwndwr dall,
Sy gan y naill ar y llall y rwan.
Er bod bai ar bawb, o frenin i gardotyn,
Ei faich ei hunan geiff pawb o honyn,