Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

.
Ond ni chuddir Dyffryn Clwyd â mŵg y dre',
Daw melldith i'r gole i'w gweled.

Ust. Pechaduried y'm ni o'r taera,
Bob swyddog er oes Adda,
Nid oes di fai a sai' yn dêg
I daflu carreg gynta'.

[Diflanna.

Arth. O, cais fynd mewn cyffro,
At y gyfreth 'rwyt ti'n gwefrio,
Am ysbio mantes a chael gwall
Ar ryw ddyn dall i'w dwyllo.

Chwi a glywsoch yma ar gyfer
Yr esgob a'r ustus yn ffrostio'u gwychder,
Mai nhw sy'n trefnu ac yn plannu i'n plith
Y fendith a'r cyfiawnder.

'Roedd un yn bostio'i weddi a'i bregeth,
A'r llall mor gyfrwys yn bostio 'i gyfreth;
Ond y fi raid weithio a ffwndro'n ffest,
Gael talu am eu gorchest heleth.

Er eu bod hwy yn ymddyrchafu,
Bob un yn hollawl yn ei swydd a'i allu;
Gwaith yr hwsmyn sydd ar dwyn
Yn eu dal hwy'n fwyn i fyny.

Beth bynnag a fyddo beunydd
O g'ledi arnynt hwy trwy'r gwledydd,
Yr hwsmon truan ym mhob tre'
Raid ddiodde'r coste a'r cystudd.