Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A welwch chwi, dyma'r peth geiff dyn truan,
Ar ol colli'i gôf, a gwario'i arian;
Tafod drwg, a'i alw'n fochyn bo lol,
A'i bacio'n hollol allan.

A phe gyrrwn y wraig neu rywun o'm cartre
I geisio llwyed o'u burum hwy fory'r bore;
Er maint a waries yma'n llym,
Ni chawn i ddim heb ddime.

Ac a weriwch chwi, ffylied garw,
Eich arian i garpie chwerw?
Bydde'n well gennyf o syched farw'n syth,
Nag y carwn i byth mo'u cwrw.

O! yr oedd diawl i'm dilyn,
Aros yma i hurtio 'nghoryn,
'Ngholledu fy hun, a gwneud niwed caeth,
A 'muchedd yn waeth na mochyn.

Nis gwn i pa sut yr a'i adre,
Gan g'wilydd liw dydd gole;
Mae'r wraig er's meityn, wrantaf fi,
Yn rhyw gyrion yn rhegu'i gore.

[Diflanna Arthur.

[Ymddengys Rhywun.

Rhywun. Dyma finne, Rhywun, mawr ei drueni,
'Does neb yn cael mwy cam na myfi;
'Rwy'n gysgod esgus celwydd llydan,
Fwy o'r hanner na'r diawl ei hunan.