Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Wat Emwnt.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi gollwng y creadur, arhosodd Wat i chwilio'r agen yn fanylach, gan ddilyn ei chwrs gyda llethr y pwll am tua deuddeg troedfedd. Yr oedd y tyweirch naturiol ar ei phen am yr holl bellter hwnnw, ac yr oedd o leiaf bedwar agoriad iddi rhwng y meini, o wyneb y pwll mawr ei hun. Cerddodd Wat yr un tir droion, gan edrych a oedd unrhyw agoriad o gyfeiriad arall i'r agen neu beidio. Ymddengys ei fod wedi ei foddhau ei hun yn hynny, oblegid, ebe fe'n fuddugoliaethus, "Y peth i'r dim! Fe fydd yma ddeilad yn y freehold bach hwn cyn pen yr wythnos! Wat Emwnt! y machan i! Ti fyddi'n ŵr bonheddig wedi'r cwbwl!"

Yn ystod y dyddiau dilynol bu gofalu arbennig ar y myllt tua Blaen-y-Gatar, ac yn fwy arbennig fyth ar y rhai agosaf i'r Pwll Canol. Cyn hir, nid yn unig yr oedd y man y syrthiodd y llwddwn iddo yn berffaith ddiogel, ond, o gloddio amryw gerrig allan yr oedd yr agen wedi ei lledu o dan y nengraig a dau esgynbren praff wedi ei sicrhau o'r un mur i'r llall. Ni allai neb, hyd yn oed o sylwi'n fanwl, weld fod yno ddim ond a arferai fod, namyn maen ag ychydig fwsogl arno a wasanaethai fel drws.

Dyma'r lle a baratodd Wat yn gartref i'r ceiliogod game, y blysiai ef gymaint am eu cael.