hynny'n eglur ddigon yn lleferydd ac osgo'r Foresters a'u cyfeillion Cymreig. Yn ebrwydd daeth y diwedd gydag ysbardun dur Beauty'r Bannau yn ymennydd y Lydney Boy.
Trodd Dai ei olwg at Wat i weld sut yr ymagweddai yn awr ei fuddugoliaeth, ond y cwbl a ganfu ef oedd gweled ei hen gyfaill yn taro un llaw yn y llall ac yn codi a nesu at feistr y chware. Yn ymyl hwnnw oedd y ddau ddyn ieuainc y soniwyd am danynt yn nechreu'r ymgyrch.
"Demned fine bird!" ebe'r cyntaf o'r rheiny, ac "It's ten golden guineas I'll give you for him this instant," ebe'r llall.
Ond gan estyn heibio iddynt er cymryd ei aderyn oddiwrth y swyddog, ebe Wat wrthynt yn ei Saesneg hy bratiog, "Me no sell."
Taer oedd y gŵr ieuanc, serch hynny, ac yn y diwedd dywedodd, "At least, give me your address, for you'll surely change your mind and let me make an offer later. Here's my card!"
Dywedodd Wat mai yn Nantmaden, Penderyn, yr oedd ef yn byw, ond pwysleisiodd unwaith eto, "Me no sell."
"Come along, Anthony," ebe'r gŵr ieuanc cyntaf, "and bide your time. He'll be glad of a fiver later on. Demned fine bird all the same!"
Pan gyrhaeddodd Wat y drws yr oedd Dai eisoes wrth ei ochr, ac yn gofyn am gael cario'r Beauty adre. Ofn oedd ar y llanc y byddai i'w hen gyfaill fynd, yn afiaith y fuddugoliaeth, i'r gyfeddach gyda'r mwyafrif o'r cwmni. Ond yn hynny siomwyd ef i'r ochr oreu oblegid, wedi troi o Wat at y gŵr o Fanwen Byrddin a dywedyd rhywbeth wrtho