Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Wat Emwnt.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwylus Guide me, O Thou great Jehovah, yr emyn newydd a oedd wedi dechreu tanio cynulleidfaoedd y bobl hyn, credai Wat iddo weld mewn côt goch ar gyrrau pellaf y dorf, un a adwaenai.

"Ia!" ebe fe," yr hen Jim yw e', 'rwy'n siwr," a chyda hynny cerddodd yn dawel ar gylch y tu allan i'r dorf er mwyn dyfod ato. Nid oedd Jim wedi ei weled ef hyd hynny, ac o wasgu o Wat ei fraich, gwaeddodd yn sydyn, "Wat Emwnt, yr hen Father Taffy, byth na chyffro i! Shwd mae hi fachgen?"

"Hush! Hush!" ebe rhai o'r gwrandawyr yn ymyl, ac yna y cofiodd Jim mai mewn gwasanaeth crefyddol yr oedd, a chan ostegu ei lais, arweiniodd ei gyfaill ychydig o ffordd oddiwrth y cylch er cael ymgom pellach.

Nid oeddynt wedi bod gyda'i gilydd ond prin munud, cyn daeth atynt foneddiges ganol oed o osgo urddasol iawn, a chan eu cyfarch, ebe hi,

"Two Cymry, I presume. I am sorry I cannot speak Welsh so well as I ought to, but I recognised it in a moment when you said,Shwd mae hi fachgen?' What part of Wales do you come from, may I ask?"

"We are both from Brecknock, madam," atebodd Jim, "I, from Brecon town and my friend from Penderyn."

"Brecknock! dear old Brecknock! You must come with me please, I want Charles (i.e., my husband) and his brother John, who is preaching now, to talk to you. Don't say me Nay.' I am so delighted to meet you, and serving your country too. Please follow me!