Tudalen:William-Jones.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Derbyniasai gytundeb oddi wrth gyfreithiwr o Gaernarfon yn ei rwymo i dalu punt yr wythnos yn rheolaidd i'w wraig.

"Mae hi'n aea' arno' ni eto, William."

"Ydi, fachgan. Mae'r gwynt yn reit oer hiddiw."

Troesai'r llethrau'n eurgoch erbyn hyn, a threiglai niwl oer i lawr trostynt. Gwelent sbotiau yn symud draw hyd ymyl y tip-gwŷr yn cloddio am glapiau o lo. Buasai Crad a William Jones wrth y gwaith hwnnw y diwrnod cynt, ond, wedi ymladd wrth ddringo yno, gorfu i Grad fodloni ar eistedd i lawr i wylio'i frawd yng nghyfraith yn ceisio llenwi ei sach.

Cyrhaeddodd y ddau yr ystabl a elwid yn Glwb. Nid oedd yno ond dyrnaid, ac aeth Crad ati ar unwaith i drwsio esgidiau Wili John. Dringodd William Jones y grisiau i'r llofft, gan wybod y byddai David Morgan yn y fan honno. Yr oedd ef a'r cerddor yn gyfeillion mawr erbyn hyn a'r chwarelwr yn un o aelodau ffyddlonaf y côr. Cafodd yr arweinydd wrthi'n rhwbio â phapur cras y silffoedd llyfrau a luniasai i'w fab, Idris.

"Wel, beth ych chi'n feddwl ohonyn nhw?" gofynnodd, gan sefyll gam yn ôl.

"Gwych, David Morgan. Ydyn', wir."

"Dim ond ticyn o stein a farnish 'nawr. Sypreis bach i Idris 'co."

"O? Ydi o ddim yn gwbod amdanyn' nhw?"

"Nac yw. Ma'fa'n achwyn obothdu'i lyfra' o hyd—dim lle 'da fa i'w rhoi nhw. A llyfra' Idris yw popeth yn tỳ ni. Dim ond i fi symud un ohonyn nhw oddi ar y ford ne'r seidbord a 'na fi'n cal eitha' pryd o dafod 'da'r fenyw 'co. Ond 'na fe, 'dyw Idris ddim yn gallu 'wara'r organ ’nawr fel odd a."

Na, ni chanai'r bachgen unfraich yr organ yn awr. Collasai ei fraich yn y pwll, a'i dad gerllaw yn gwylio'r ddamwain. Rhawio glo i'r conveyor yr oedd Idris Morgan pan ddaeth rhyw wendid trosto ennyd ac y syrthiodd ar y peiriant. Crafangodd y conveyor ei fraich a thynnu'r gŵr ifanc gydag ef, ond neidiodd dau ddyn ymlaen i gydio ynddo, gan fachu eu gliniau a'u traed ar ryw arwder a deimlent yn y llawr. Yna, yn sydyn, llaciodd y tynnu ac yr oedd Idris yn saff yn eu breichiau—heb ei fraich. Rhwygwyd honno ymaith o'r gwraidd. Bu am ryw naw mis mewn ysbyty, ac yna dychwelodd adref yn wrol ac yn siriol, a chafodd waith i ofalu am