Tudalen:William-Jones.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iti gal asgwrn bach arall. Tyd; yr wyt ti'n werth y byd, ond wyt ?"

Y capel, y côr, a'r ci—ond yr oedd gan William Jones ddiddordebau eraill hefyd ym Mryn Glo. Âi ef a Chrad bob bore i lawr i'r Workmen's, fel y dysgodd alw Neuadd y Gweithwyr, am gip ar y papur newydd a sgwrs hefo hwn a'r llall. Trawodd i mewn i'r llyfrgell yno un diwrnod, a darganfu, ymhlith rhai miloedd o lyfrau, ddyrnaid o rai Cymraeg. Yr oedd "Capelulo," a "Sioned" Winnie Parry yn eu mysgs ac nid oedd bw na ba i'w gael ganddo wedyn am nosweithiau lawer. Treuliai ambell noson hefyd yn festri Salem yn gwrando ar y radio, neu ar ddarlith neu drafodaeth a drefnai Mr. Rogers yno. Yr oedd yn rhy yswil i gymryd rhan mewn trafodaeth, ond enillodd beth bri un noson trwy ddadlau'n frwd fod meddwl a chof a dychymyg gan gi—"mwy o lawar nag sy gan amball ddyn," meddai ef. Pan fyddai llun go dda yno, denai Wili John ef i'r sinema, a gallai sgwrsio'n bur ddoeth bellach am rai o hoelion wyth y darluniau byw. Âi hefyd bron bob prynhawn Sadwrn i wylio'r gwŷr ifainc yn chwarae Rygbi yn y cae wrth yr afon, a siaradai gyda pheth awdurdod am "lein owt" a "threi” a "sgrym"; yn wir, daliodd Crad ef un diwrnod yn dadlau'n ffyrnig hefo Shinc fod ei fachgen, Richard Emlyn, yn "off-side." cyn ennill trei.

Rhaid imi gofio egluro hefyd fod William Jones yn troi'n dipyn o Sais wrth ddarllen y papur dyddiol a gorfod sgwrsio'n Saesneg â llawer un mewn siop ac ar yr heol. Ac ymhlith llyfrau ysgol Wili John ac Arfon, darganfu'r gyfrol a gyffroes ei feddwl gymaint pan oedd yn fachgen—"Treasure Island." Penderfynodd geisio'i ddarllen—gyda chymorth parod ond ffroenuchel Wili John—a mawr oedd y blas a gafodd arno. Rhai o storïau Hans Andersen a ddarllenai ar hyn o bryd, a deffrowyd ei ddiddordeb gan gip ar amryw eraill—yn eu plith, "The Cloister and the Hearth," "Silas Marner," ac "Ivanhoe." Barn Meri oedd bod ei brawd yn "ddarllenwr mawr".

Rhwng popeth, âi'r dyddiau a'r wythnosau heibio'n gyflym. Diolchai Crad pan ddaeth diwedd Tachwedd; oherwydd yr aflwydd ar ei frest, yr oedd yn well ganddo oerni a rhew Rhagfyr na niwl a lleithder Tachwedd. Cadwai'r côr William Jones yn hynod brysur; cyfarfyddai yn awr deirgwaith yr wythnos, ac ni chollai ef un cyfarfod. Cerddai i bractis ac