Tudalen:William-Jones.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adael yr ysgol am y lofa yn paratoi i fynd i'w gwaith un bore- astudiaeth ddiddorol o bum cymeriad a chefndir eu cartrefi. Yn y penodau eraill y ceid hanes y cwymp, treigl araf y dyddiau dan ddaear a phryder y ceraint ar y lan. Ond gwrandawai Crad ar bob gair o enau Ben Roberts ag awch: nid oedd wiw i neb symud llaw na throed.

"Campus, William! Y gora' ohonyn nhw, 'ngwas i. O ddigon," oedd dyfarniad y claf pan ddychwelodd yr actor.

"Chdi a Howells."

"Rydan ni'n dau yn mynd draw i'w gartra fo ddydd Sadwrn, Crad-hynny ydi, os byddi di'n teimlo'n ddigon da."

Ond ei hunan yr aeth William Jones yn gynnar y prynhawn Sadwrn hwnnw. Trigai Howells mewn tŷ cymharol newydd ar lethr werddlas, braf, a mawr oedd y croeso a gafodd y chwarelwr gan Olwen Howells a chan y plant, Ieuan a Mair. Gorweddai tipyn o barc o dan y tŷ, ac yno y treuliodd y ddau ddyn a'r plant y rhan fwyaf o'r prynhawn yn gwylio pedwar llanc yn chwarae tennis. Lle buasai hagrwch tip glo, yr oedd cwrt tennis yn awr.

Amser te, "Y Pwll Du" oedd diddordeb pennaf Ieuan a Mair. Shwd yr oedd Dada ac Wncwl yn gallu siarad yng Nghaerdydd iddynt hwy eu clywed ugain milltir i ffwrdd? Ceisiodd eu tad egluro'r dryswch, ond nid gwaith hawdd oedd ateb rhai o'r gofyniadau. Ategodd William Jones yr eglurhad gydag ambell "la" doeth, er bod yr un cwestiynau yn ei boeni yntau. Fel un o gyfeillion eu tad ar y radio yr edrychai'r plant ar Wncwl; ni wyddent ddim am y noson erchyll yn Ffrainc. Ond honno a gofiai eu mam wrth benderfynu bod yn rhaid i'r ymwelydd gymryd chwaneg o'r jam neu damaid arall o gacen. Ni wyddai William Jones sut y medrai lusgo adref ar ôl bwyta cymaint. Diar, rhai da am fwyd a chroeso oedd pobol y Sowth, yntê?

Ar ôl te, cerddodd ef a Howells i lawr i waelod y pentref i weld tad a mam yr athro. Cronnai'r dagrau yn llygaid Mrs. Howells wrth iddi ysgwyd llaw ag ef, a thaflai olwg tyner a phell tua'r mur lle'r oedd darlun hardd o'i mab mewn gwisg filwrol. Ysgydwodd William Jones ei ben a gwenodd wrth groesi'r parlwr i syllu ar y llun. Diar, fel yr aethai'r blynydd- oedd heibio, yntê, mewn difrif! Ymh'le yr oedd y bachgen a chwaraeai Rygbi erbyn hyn? O, athro yn Llundain oedd John, y mab ieuangaf. A'r ferch a enillai ar ganu mewn