Tudalen:William-Jones.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'cw, a rhyw ddyn bach piwis yn malu awyr ar y weiarles 'na. Gorffwys!"

Bu raid i Grad dalu am ei ryfyg drannoeth drwy aros yn ei wely yn lle mynd i'r capel. Er hynny, cafodd y gwasanaeth o Salem a phregeth Mr. Rogers—ar y radio. Ac wrth ei ddilyn, melys oedd dychmygu'r olygfa—Richard Emlyn, hogyn Shinc, wrth yr organ; David Morgan, yn ei goler galed a'i fwa du, yn taflu golwg rhybuddiol o flaen pob emyn ar ddau leisiwr anhydrin—Isaac Jones yn y Sêt Fawr a Mrs. Bowen yn un o'r seddau blaen; Idris wrth ei ochr yn gwrando'n astud ar bob nodyn a ddihangai o'r organ; Jac Jones, glanhawr y capel, yn pesychu'n uchel er mwyn i'w ferch yng Nghaerdydd ei glywed; a William Jones, rhwng Eleri a Wili John, yn credu y dibynnai llwyddiant y darllediad ar yr eiddgarwch yn ei lygaid ef.

Ond Mr. Rogers a oedd gliriaf ym meddwl Crad, a dychmygai bob ystum ac osgo o'i eiddo. Gwelai'r llygaid treiddgar yn yr wyneb tawel, cerfiedig; y pen a daflai'n sydyn y cnwd o wallt yn ôl o'r talcen; a'r bysedd hirion, nerfus, yn clymu am fin y pulpud. Nid oedd Crad yn weddïwr, ond deisyfai â'i holl natur y byddai'r gwasanaeth, a'r bregeth yn arbennig, y rhai mwyaf effeithiol a fuasai ar y radio erioed.

Y Samariad trugarog oedd testun y bregeth seml. Rhoes Mr. Rogers ddarlun byw, ond cynnil, o'r cyfreithiwr hunan-ddoeth a geisiai faglu Crist, ac yna o'r digwyddiadau a welsai neu a ddychmygasai'r Gwaredwr ar y ffordd a droellai'n serth o Jerusalem i Jericho. Aeth wedyn i sôn am Gymru. "Gwlad y Menyg Gwynion?" "Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri?" "Gwlad y Gân?" Crud yr Eisteddfod a'r Gymanfa? Cartref pregethwyr ac areithwyr mawr? Magwrfa'r athronydd a'r diwinydd? Aelwyd y crefyddwr a'r moesolwr? Efallai fod rhai o'r pethau hyn yn wir, er y credai y llithrai'r termau braidd yn rhy rwydd i'n llafar ni ein hunain. Ni bu cyfraniad y genedl, yn ei farn ef, yn un eithriadol i na llên na cherdd na dysg y byd, ac wrth iddo daflu golwg i'r dyfodol, ni welai arwyddion o'i wlad yn cyflwyno rhyw draddodiad neu fudiad arbennig iawn i genhedloedd eraill. Codai unigolion â gweledigaeth ac athrylith yn eu trem,

"Y rhai, mewn cnawd fel ninnau, ar wahân
Freuddwydiant eu breuddwydion."