Tudalen:William-Jones.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cefnder i gnither i fi yn 'oples cês—dau spesialist 'di rhoi 'mish iddo fa i fyw. Ond fe ath at Watkins, a 'nawr ma' fa'n O.K. Canser, a dau spesialist 'di rhoi ..

"Lle mae o'n byw?" gofynnodd William Jones.

"Watkins? 'Ych chi'n gwpod y ffordd sy'n troi lan at yr hen eclws yn Ynys-y-gog? Ma' 'na dŷ mawr coch hanner y ffordd, ar y llaw dde. Fe etho' i â'r wraig 'co yno pan odd hi'n dost 'da'i stwmog, a bachan, 'odd hi'n byta steak and chips cyn pen wthnos. Ffact."

"Ydi o'n ddrud?" gofynnodd Crad.

"Drud! Punnodd ar bunnodd 'odd Lizzie 'co 'di'u talu i'r Doctor 'ma, ond dim ond pedwar a 'wech gwnnws Watkins arna' i."

"Be' mae o'n roi i rywun sâl?" gofynnodd William Jones.

"Llysia??"

"Llysie' a phils a ffisig. Ma' pob math o stwff 'da fa. Cera draw i'w weld a, Crad. 'Bryn Gobeth'-'na enw'r tŷ. Jiw, ma' fa'n sgolar, bachan!"

"Fyddi di ddim gwaeth o'i drio fo," meddai'r chwarelwr ar ôl i Dwm Edwards eu gadael. "Be' am gymryd te go gynnar a dal y trên pump? Mi fûm i'n codi arian bora."

"Twt, rêl cwac ydi o, William. Yr ydw i wedi clywad am y dyn."

Er hynny, daliodd y ddau y trên, ac wedi cyrraedd Ynys-y- gog, aethant ar hyd y ffordd wledig a ddringai tua'r hen eglwys. Ar ôl rhyw hanner awr o gerdded araf, safent o flaen y tŷ mawr o briddfeini coch. "Bryn Gobaith," meddai'r llythrennau aur uwch y drws.

"A! Dau druan mewn ymchwil am feddyginiath! Croeso, fy nghyfeillion! Croeso i Fryn Gobaith!"

Ni wyddent am funud o b'le y daethai'r llais, ac yna gwelsant ddyn tal a thew yn camu at y ddôr ar hyd llwybr yr ardd.

"Y ffordd hyn, bererinion yn yr anial, y ffordd hyn!"

Dilynasant ef drwy'r ardd i ddrws yng nghefn y tŷ. "Llais Ifan Siwrin, myn coblyn," sibrydodd Crad. Ac yr oedd y dyn yn debyg i Ifan Davies, ond ei fod yn dewach o lawer a'i ben yn foel.

Aeth â hwy i mewn i ystafell braf yn edrych i lawr ar y caeau gwyrddlas rhyngddynt ac Ynys-y-gog. Eisteddodd Crad a William Jones wrth y lle tân a'r dyn wrth y bwrdd.