"Rhyw ferch arall, mae'n debyg!"
"Dyw hynny'n ddim o'ch busnes chi, Northman."
"I b'le'r aeth hi?"
"Shwd 'wy' i'n gwbod? Mi 'wedais i wrthi am fynd 'nôl yn strêt."
"Est ti ddim i'w danfon hi at y bws?"
"Netho i ddim gofyn iddi ddod lawr i Gardydd, do fa? Y ffwl fach!"
"Ydi, mae hi'n ffŵl fach, mae arna' i ofn, yn rhoi ymddiriedath mewn rhyw greadur fel ti." A brysiodd William Jones i lawr y grisiau heb dorri gair arall.
Crwydrodd hyd heolydd y ddinas drwy'r prynhawn, gan gyflymu ei gamau bob tro y gwelai gap neu het goch. Ond ofer fu ei ymchwil, ac wedi yfed cwpanaid o de, troes yn ddigalon tua stiwdio'r B.B.C. Go ddienaid fu ei berfformiad fel Ben Roberts yn yr ymarfer y noson honno, ac onibai fod Ted Howells wrth ei benelin, collasai ei le droeon ar y sgript ac aethai holl gynghorion y cyfarwyddwr yn angof.
"Be' sy'n bod heno, Jones?" gofynnodd Howells, pan gawsant seibiant a chwpanaid o de.
Dywedodd ei stori. Ond nid oedd gan ei gyfaill weledigaeth, a'r cwbl a allai ei wneud oedd sibrwd yng nghlust Ellis Owen, y cyfarwyddwr, gan awgrymu iddo beidio â thalu sylw manwl i ran Ben Roberts y noson honno.
Yr oedd Meri a Wili John ar y platfform ym Mryn Glo. Adroddodd hanes ei ddiwrnod wrthynt, a deallodd mai'r unig newydd a gawsent hwy oedd i Eleri fenthyca tri swllt oddi ar Freda James, un o'i chyfeillion, y bore cynt. Crad ddim hanner da ac yn poeni'n ofnadwy. Mr. Rogers wedi ysgrifennu at weinidog pob eglwys yng Nghaerdydd, rhag ofn y digwyddai un ohonynt hwy neu o'u haelodau daro arni.
Llusgodd dyddiau pryderus heibio. Ceisiai Meri anghofio'i hofnau trwy fynd ati i lanhau, yn hollol ddiangen, bob ystafell yn y tŷ; ond eistedd yn ddiymadferth yn ei gadair-freichiau a wnâi Crad, heb fawr o ddiddordeb hyd yn oed yn helyntion Ben Roberts yng ngwaelod y Pwll Du. Richard Emlyn, hogyn Shinc, a'u synnodd fwyaf. Âi ef i lawr i Gaerdydd ar ei feic bob dydd, gan loetran yn ddisgwylgar ar gongiau'r strydoedd. Hyd heolydd Caerdydd y treuliodd Idris Morgan hefyd brynhawn a hwyr y Sadwrn, a thrawodd ar Mr. Rogers yno droeon.