Tudalen:William-Jones.djvu/241

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

droeon o'r blaen ; pa un bynnag, yr oedd yn rhaid cyfaddef mai un go gas oedd Wil. Ni ddywedai Huw air, ond pan gamodd y plisman ymlaen i gydio yn y mwnci, gwthiodd y dyn tawedog ef o'r neilltu ac yna aeth ef a'r anifail allan am dro i'r ardd. Cliriodd Elin Jones weddillion y wledd o'r bwrdd yn drist, gan gwynfan nad oedd gan hen ddyn yr hyrdi-gyrdi 'na ddim hawl i ddianc i fyd arall heb fynd ắ'i fwnci hefo fo.

Rhoes Huw a'i fwnci ddifyrrwch mawr i blant a phobl yr ardal am rai misoedd, ond yr oedd Elin Jones yn falch iawn pan flinodd y creadur ar gwmni diymgom ei mab a dewis mynd i chwilio am ei hen feistr. Collodd Huw ddau ddiwrnod o'r chwarel pan aeth Mic yn wael, ac wrth ei gladdu rhoes lechen hardd uwch heddwch ei lwch ym mhen yr ardd.

Centre-half a chwaraeai Huw ar gae'r bêl droed, ac ef oedd asgwrn cefn y tîm. Ymddangosai'n hollol ddifraw, fel un a gerddasai ar ddamwain i blith y chwaraewyr ac a wyliai'n syn a breuddwydiol eu rhuthro ffôl ar draws ac ar hyd y maes. Plethai ei ddwylo tu ôl iddo'n bur aml, a cherddai o gwmpas â'i lygaid tua'r llawr fel petai'n cyfansoddi awdl ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf. Ond cyn gynted ag y deuai'r bêl tuag ato ef, deffroai Huw Mwnci drwyddo a buan y gyrrai hi'n ôl i ben arall y cae. Ac yna, gan ymddangos heb ddi- ddordeb o gwbl yn y byd o'i amgylch, âi Huw ymlaen a'i awdl a'i gnoi baco. Pur anaml y llwyddai neb i fynd â'r bêl heibio iddo, ond pan ddigwyddai hynny, byddai coesau hirion Huw wedi dal a phasio'r gwr ymhen ennyd. Dadleuai'r hogiau yn y chwarel fod Huw Mwnci'n ddigon da i Everton neu Aston Villa unrhyw ddydd.

"Be' sy'n dy gosi di biddiw ?” gofynnodd William Jones i Grad un prynhawn wrth weld ei frawd yng nghyfraith yng ngafael rhyw ddifyrrwch.

"Y gêm honno yn erbyn Llan Rhyd. 'Oeddat ti yno, dywad ?"

“Ôn. Pan sgoriaist ti ddwy gôl?"

"Ia, a phan gariodd Twm Bocsar y refferî o'r cae o dan 'i fraich."

"Rhyw frith gof sy gin i am y peth, fachgan." Celwydd oedd hyn, ond credai'r chwarelwr y rhoddai adrodd yr hanes fwynhad i'r dyn claf.

"Roedd 'na refferî newydd sbon ar y cae, William, y dyn