Tudalen:William-Jones.djvu/247

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyrhaeddai Wili John, mor newynog â nafi, ac wedi iddo ef droi'n ôl i'r siop erbyn dau, câi Meri gyfle i ailddechrau ar ei gwaith. Âi William Jones i fyny i'r alotment neu i lawr i Glwb y Diwaith, a phan ddychwelai tua phedwar, byddai ei chwaer yn ddieithriad yn ei "dillad diwetydd" a ffedog lân o'i blaen. Câi Meri orffwys amser te, oherwydd mynnai Eleri a William Jones glirio'r bwrdd, a chyda'r nos câi "hamdden" i drwsio a gweu a gwnio ac i ysgrifennu ambell lythyr i Arfon.

Rhoddid i Feri, fel Wili John, un "half-day" bob wythnos. Âi i Glwb y Merched—"Clwb Clebran," yn ôl Wili John— bob prynhawn Mercher, ac yno, un wythnos, câi hyfforddiant mewn gwnïo a gweu ac ail-wneud hen ddillad, a'r wythnos wedyn mewn coginio. Os mentrai sôn ambell brynhawn Mercher fod ganddi ormod o waith i fynd yno, brysiai dau blisman i'w hochr i'w hebrwng i waelod y grisiau, gan ei siarsio i newid ar unwaith heb ychwaneg o lol. Canai'r ieuang af o'r ddau gân am ryw "old-fashioned mother," a dywedai Meri bob tro eu bod "yn sâl isio cael gwared" ohoni. Ond mewn gwirionedd, er iddi fod yn yswil yno ar y dechrau, yr oedd wrth ei bodd yn y Clwb. Dysgai lawer yno, a thyfodd cyfeillach gwragedd y di-waith yn un gynnes a chref. Ceiniog yr wythnos a dalai am y fraint, ond deuai adref yn gyfoethog mewn profiad. Ei chartref a'i theulu, y capel, a'r Clwb— y rhain oedd ffiniau ei bywyd, ac ni hiraethai am ddim arall. Ar ryw brynhawngwaith llwm o law birfilain, niwlog, a'i fam newydd gychwyn i'r Clwb, y penderfynodd Wili John roi ei gynllun ar waith. Wedi mynd â Mot i'r llofft yn gwmni i'w dad, brysiodd i lawr y grisiau.

"Wncwl William ?"

"Ia, 'ngwas i?"

"Ma' sgîm 'da fi."

"O?"

"Ôs. Beth ’ta' chi a fi yn gneud cwpwl o sosej-rôls i de fel syrpreis bach i 'Mam?"

"Be'ydi'r rheini, dywad?"

"Wel, sosej, ontefa, wedi'i gneud miwn i dishennod bach."

"Duwcs, 'chlywis i ddim am neb yn bwyta siwgwr hefo sosej 'rioed o'r blaen."

"S dim isha siwgyr, w."

"Wel, oes mewn teisan, hogyn."