Tudalen:William-Jones.djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cholli'r dŵr. A daro, ar ôl ysgol 'on i byth bron yn mynd mas i'ware heb gario babi mewn siôl!"

"Pryd 'daru chi ddechra' gweithio, David Morgan?" gofynnodd William Jones i'w arwr.

"Deg a hanner on i pan es i i dendo ar y rôls yn y gwaith tun. O saith yn y bore hyd 'wech y nos am swllt y dydd."

"Roeddach chi'n ifanc iawn."

"On, ond 'odd lot o grots dan ddeuddag yno, ac 'on ni'n mynd i gwato pan odd yr Inspector o gwmpas. 'Fues i'n cwato am dri dwrnod un waith, fi a rhyw ddwsin o fechgyn erill lan yn rhyw hen lofft fawr yn gneud dim ond aros i'r Inspector fynd o'r cylch."

"Faint fuoch chi yn y gwaith tun?"

"Pum mlynedd, William, ond 'on i ddim yn lico yno o gwbwl. Dim archwaeth am fwyd, 'chi'n gweld. 'Ôch chi'n 'wsu cymaint nes odd raid i chi gal tamed blasus yn eich bocs cyn allech chi feddwl am fwyta, a 'odd 'da rhieni rhai o'r bechgyn erill fwy o arian i brynu petha' na 'nhad a 'mam. Beth bynnag, fe etho i i ddramo yn y pwll, ac 'on i'n cal tri a grot y dydd fan'no."

"Dramo?"

"Pwsho'r drams, William. 'Odd tri o' ni'n dramo 'da'n gilydd miwn lle â'r to mor ishal nes odd y dram yn rhwto yn erbyn y top. Plygu, plygu, o fore tan nos. 'Odd deuddag cant o bwysa' miwn dram, a 'na galad odd pwsho lan y cwnnad i'r partin! A phan odd hi'n mynd o' ar y raels, 'on ni'n gor—ffod 'i chwnnu hi'n ôl. 'On ni'n dri ar ryw dri chan llatho ffordd—bachan o'r enw Jim Buckley, a Fred Daniels, a finna'. Crwtyn piwr odd Fred—gwallt coch, llygaid glas, glas; llais fel yr eos ac yn canu drw'r dydd. A chanu 'odd a funud cyn iddo fa gal 'i ladd. Fe ath y dram odd 'da fi off y raels a bloco'r ffordd, 'chi'n gweld, a fe wasgwyd Fred i farwolaeth rhyngddi hi ac un Buckley. 'Na'r tro ola' i fi ddramo."

"Y pryd hwnnw y daethoch chi i Fryn Glo 'ma, Dai?" gofynnodd Crad.

"Ia. 'On i'n cyrradd yn y bora ac yn cal start yn Pwll Bach y noson 'onno. "Odd, 'odd digon o waith yma pryd 'ynny. A digon o fynd. Y bywyd yn galad a'r dynon dicyn yn ryff, 'falla', ond 'odd calonna' iawn 'da nhw. 'Odd rhai'n cal 'u dewis bob Sadwrn pae i gasglu arian i helpu rhywun tost ne'