Tudalen:William-Jones.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y corn ac y daeth Bob Gruffydd i'r wal o'r twll, teimlai'n addfwyn ac edifeiriol iawn. Cofiasai hefyd fod gan Leusa bob math o boteli yn y llofft-pils at y peth yma, tabledi at y peth arall, ffisig at hyn, balm at y llall. Oedd, yr oedd yn rhaid bod Leusa'n bur wael.

"Hylo, yr hen Bob!" meddai wrth ei bartner, yn hynod garedig a chroesawgar. Edrychodd hwnnw arno â'i am- rannau'n crychu mewn syndod. "Wyt ti'n dŵad i'r caban, William?" gofynnodd.

Un tawel a myfyriol uwchben ei fwyd yn y caban oedd William Jones fel rheol, ond, a'r weledigaeth newydd yn goleuo'i feddwl ac yn cynhesu ei galon, rhoes glust astud a llygaid effro i bopeth o'i amgylch. Dangosodd ddiddordeb eithriadol, er enghraifft, yn helyntion ieir John Williams, a manteisiodd John ar hynny i adrodd wrtho ef ac wrth wynebau diflas a gelyniaethus y lleill y stori am yr hen geiliog a fynnai hebrwng pob iar i'r nyth ac aros wrth ei hymyl i ofalu ei bod hi'n cyflawni ei dyletswydd cyn iddo glochdar yn llon a'i hebrwng yn ôl o'r cwt. Gan y gwrandawent ar y stori am y canfed tro, syllai pob un ar ei fwyd mewn anobaith llwyr. Pob un ond William Jones, a borthai John Williams yn eiddgar. Rhythodd Bob Gruffydd ar ei bartner. A oedd y dyn yn drysu?

Yna, wedi i'r ceiliog hebrwng yr iâr olaf un o'r cwt, troes William Jones glust tua phen y bwrdd, lle'r oedd Huw Lewis yn egluro rhagoriaethau a gwendidau nifer o geffylau a oedd i redeg ras drannoeth. Ar ôl gorffen bwyta, cododd a chrwydrodd draw i loetran yn astud wrth ymyl y betwyr.

"Ac mi glywodd Huws y peth gan gefndar sy'n 'nabod rhywun sy'n perthyn i'r dyn sy'n gweithio yn stabal Golden Streak." Yr oedd Huw Lewis yn bur awdurdodol. "Golden Streak pia' hi 'fory, yntê, William Jones?" Chwarddodd pawb, gan fod gofyn barn William Jones ar bwnc o'r fath yn beth digrif dros ben. "Pwy oedd 'i fam o?" gofynnodd Huw, yn null yr hen bregethwyr. "White Hare. A phwy treiniodd o? Y dyn ddaru dreinio Derby Jane y llynadd. A phwy ydi'r joci? Jack Sparrow. Yr ydw i'n deud wrthach chi y bydd Golden Streak wrth y post cyn i'r lleill wbod bod y ras ymlaen."

Dychwelodd William Jones i'w wal yn llawen.

"Hylô, yr hen Bob," meddai eto wrth ei bartner, a theimlai